Helpu arwyr y GIG a gwarchod ein cymuned – Apêl PPE Coleg Caerdydd a’r Fro

30 Ebr 2020

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro eisiau cyfraniadau o Offer Gwarchodol Personol (PPE) y bydd yn ei ddosbarthu wedyn i’r GIG ac i weithwyr allweddol ledled y Brifddinas Ranbarth.

Mae CAVC yn cysylltu â’i rwydwaith o gyflogwyr a chysylltiadau cymunedol i ganfod Offer Gwarchodol Personol (PPE) y mae ei wir angen ac i sicrhau ei fod ar gael i’r rhai sydd ei angen yn ein cymuned. Gall unrhyw un helpu – a dyma sut.

Os oes gennych chi stoc o offer gwarchod personol yn eich busnes / meddiant, gallwch ei gyfrannu i CAVC i fod ar gael i staff rheng flaen yn ystod y cyfnod yma.

Nid dim ond chwilio am gyfraniadau ydym ni – os ydych chi’n gyflenwr offer gwarchod personol ac os oes gennych chi stoc ar gael nawr ac yn y dyfodol, rhowch wybod i ni. Rydyn ni hefyd eisiau casglu arian i brynu stoc o offer a sicrhau ei fod ar gael i’r rhai sydd ei angen yn ystod y cyfnod yma.

Rydym yn chwilio am:
• Masgiau
• Menig
• Gowns
• Gogls

Yn ddelfrydol byddai’r rhain fel y rhai sy’n cael eu defnyddio mewn lleoliadau gofal iechyd arferol. Fodd bynnag, os oes gennych chi rywfaint o’r cit sy’n cael ei ddefnyddio fel rheol mewn sector gwahanol, er enghraifft, adeiladu neu foduro, gall fod yn werthfawr iawn o hyd i helpu i warchod rhai staff rheng flaen pan mae rhywfaint o warchodaeth yn well na dim.

I gyfrannu, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am stoc sydd gennych chi i’w gyfrannu neu i’w gyflenwi i’r Coleg, cysylltwch â ni ar: business@cavc.ac.uk.

Mae’r Coleg wedi cyfrannu ein stoc ni o’r uchod sy’n cael eu defnyddio gan staff a myfyrwyr mewn llefydd fel labordai gwyddoniaeth neu weithdai adeiladu / moduro ac arlwyo.

Hefyd mae Darlithydd Dylunio Cynnyrch yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, John Johansson, wedi bod yn rhoi ei sgiliau argraffu 3D ar waith at achos da, gan greu masgiau Offer Gwarchodol Personol (PPE) ar gyfer eu dosbarthu ymhlith staff y GIG.

Gyda help tîm Stadau CAVC, mae John wedi derbyn dau beiriant argraffu 3D o’r adran Dylunio Cynnyrch ac mae’n gweithredu o gartref. Mae newydd orffen masg rhif 20 mewn proses sy’n cymryd mwy na deg awr i greu pob masg.

Mae John wedi bod yn brysur hefyd yn cysylltu â myfyrwyr y gorffennol a’r presennol sydd â pheiriannau argraffu 3D ac mae sawl un ohonynt wedi dechrau gweithio ar eu masgiau eu hunain.

“Mae’r gymuned argraffu 3D yn grêt ac mae wedi bod yn cynhyrchu llawer o bethau cyn gynted ag y clywyd bod prinder,” meddai John. “Mae wedi bod ar gyfryngau cymdeithasol ym mhob man bod posib i ni sydd â pheiriannau argraffu helpu.

“Fe fyddai’n wirion gadael i beiriannau argraffu’r adran fod yn segur pan mae posib iddyn nhw wneud daioni.”

Mae John yn annog unrhyw un sy’n gallu gwneud defnydd o beiriant argraffu 3D i gymryd rhan. Mae sefydliad gwirfoddol, 3Dcrowduk, wedi cael ei greu i ddosbarthu’r masgiau a darparu gwybodaeth am eu manylion cywir.

Diolch i bobl fel John, mae 3Dcrowduk eisoes wedi creu mwy nag 80,000 o fasgiau ac mae wedi derbyn ceisiadau am 500,000 yn rhagor. Am fwy o wybodaeth am 3Dcrowduk, cliciwch yma.

Ymhlith yr aelodau eraill o staff CAVC sy’n gwneud eu rhan i helpu mae’r Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tracy Adams sydd wedi dychwelyd i nyrsio a’r Darlithydd Ffasiwn a Thecstilau Kerry Cameron sydd wedi ymuno â grŵp sy’n gwnïo dillad meddygol.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin: “Llawer o ddiolch i John, ac i staff eraill CAVC sy’n mynd yr ail filltir gyda gweithredoedd caredig fel hyn a chefnogaeth gymunedol.

“Rydyn ni wrth galon y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu a dyma pam rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu’r rhai sydd mewn angen – mae mor bwysig. Mae’n rhaid i bawb dynnu gyda’i gilydd yn ystod amser fel hyn.

“Dyma pam mae CAVC yn cysylltu â’n rhwydwaith ni o gyflogwyr a chysylltiadau cymunedol i ganfod Offer Gwarchodol Personol (PPE) y mae ei wir angen ac i sicrhau ei fod ar gael i’r rhai sydd ei angen yn ein cymunedau ni. Fe all unrhyw un helpu.”