Dysgwr Moduro yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro Naim yn ennill bwrsari gwerth £2,000 a gwobr Myfyriwr Llawn Amser y Flwyddyn yng Ngwobrau IMI

26 Ebr 2020

Mae myfyriwr Ailorffen Cerbydau yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro Naim Ahmed wedi cael hwb sylweddol i’w yrfa yn y dyfodol gyda bwrsari gwerth £2,000 gan Gymrodoriaeth y Diwydiant Moduro.

Cyhoeddwyd y bwrsari yng Ngwobrau Cydnabyddiaeth anrhydeddus Sefydliad y Diwydiant Moduro (IMI) lle cafodd Naim, sydd â nam ar y clyw, ei enwi yn Fyfyriwr Llawn Amser y Flwyddyn hefyd. Mae’n cydnabod ei ymrwymiad a’i ffocws, er gwaetha’r ffaith ei fod yn gweithio mewn amgylchedd swnllyd ac yn gorfod cael arwyddwr penodol sy’n defnyddio iaith arwyddion er mwyn dysgu.

Nod bwrsari’r Gymrodoriaeth yw cynorthwyo hyfforddeion y diwydiant moduro, myfyrwyr a phrentisiaid gyda’u hastudiaethau. Mae’r cyllid yn cyfrannu at gost hyfforddi, llyfrau a deunyddiau dysgu eraill, a chostau i helpu hyfforddeion i reoli costau eu hastudiaethau a sicrhau eu bod yn gallu rhagori yn yr yrfa o’u dewis.

Wrth wneud sylw am y bwrsari, dywedodd Brian Spratt, Cadeirydd y Gymrodoriaeth: “Mae’n amlwg bod Naim Ahmed yn unigolyn hynod frwd gyda llawer o ffocws ac nid yw’n gadael i’r ffaith ei fod yn fyddar effeithio ar ei uchelgais. Felly roedden ni’n teimlo y dylai, yn ogystal ag ennill Gwobr Myfyriwr Llawn Amser yr IMI, dderbyn bwrsari blynyddol a fydd yn rhoi cefnogaeth ychwanegol iddo i gwblhau ei astudiaethau.”

Am dderbyn y bwrsari, dywedodd Naim: “Mae’n dda cael fy nghydnabod am fy ngwaith caled. Fe fyddwn i’n hoffi gweithio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ar ôl cwblhau fy astudiaethau er mwyn cynnig fy sgiliau a fy ngwybodaeth i bobl ifanc yn y gobaith y gallant ddilyn yr un llwybr â mi.”

Dywedodd Lesley Woolley, Prif Swyddog Gweithredol IMI: “Wrth galon cenhadaeth IMI mae dyhead i ddenu unigolion o bob cefndir mewn bywyd a gyda phrofiadau amrywiol i’r sector manwerthu moduron. I gyflawni hyn, mae’n hanfodol nad yw unrhyw un yn colli unrhyw gyfleoedd. Rydyn ni’n llongyfarch Coleg Caerdydd a’r Fro ar sicrhau bod Naim yn cael y gefnogaeth y mae arno ei hangen i ddysgu ei sgiliau, a darparu arwyddwr penodol yn ôl yr angen.

“Rydyn ni’n llongyfarch Naim hefyd am ei agwedd mor frwdfrydig tuag at ei ddysgu. Rydyn ni’n siŵr y bydd yn mynd yn bell iawn.”

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin: “Rydyn ni i gyd mor falch bod Naim nid yn unig wedi cael ei enwi fel y myfyriwr Moduro llawn amser gorau yn y DU ond hefyd ei fod wedi cael bwrsari sy’n mynd i newid ei fywyd, i’w helpu i ddilyn yr yrfa o’i ddewis.

“Yn CAVC rydyn ni’n credu mewn cyfleoedd cyfartal i’r holl gymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ac mae’r wobr ddwbl yma’n dyst i nid yn unig waith caled ac ymrwymiad Naim, ond hefyd ymrwymiad ei diwtoriaid a’i dîm cefnogi.”