Pêl-rwyd
Mae Academi Pêl-rwyd CAVC yn cynnig rhaglen ddatblygu chwaraewyr cynhwysfawr i ferched 16-19 oed sy’n chwaraewyr pêl-rwyd talentog, gan ddatblygu sgiliau'r chwaraewyr yn yr ystafell ddosbarth ac ar y cwrt.
Mae Academi Pêl-rwyd CAVC yn elwa o gyfleusterau hyfforddi o’r radd flaenaf, ynghyd â hyfforddiant a chefnogaeth gan arbenigwyr, sy’n paratoi chwaraewyr ar gyfer pêl-rwyd ar lefel clwb, lled-broffesiynol a chenedlaethol.
Mae gan yr Academi hanes o ddatblygu talent, gyda chwaraewyr yn mynd ymlaen i’r brifysgol, yn ennill cytundebau gyda thimau pêl-rwyd lled-broffesiynol, ac yn chwarae pêl-rwyd dros eu rhanbarth a’u gwlad.
Beth allwn ni ei gynnig i chi?
Y cydbwysedd iawn
- Mae eich athrawon a’ch hyfforddwyr yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau nad yw eich astudiaethau a’ch ymrwymiadau o ran chwaraeon yn gwrthdaro. Rydym yn creu’r cydbwysedd iawn i’ch galluogi i gyflawni eich potensial yn y naill agwedd a’r llall.
- Cam ffantastig ymlaen rhwng yr ysgol a’r brifysgol, yn ogystal â chael chwarae pêl-rwyd ar lefel led-broffesiynol.
Hanes o lwyddiant
- Cyn enillwyr twrnameintiau cenedlaethol.
- Cafodd chwaraewyr cyfredol a blaenorol eu dewis ar gyfer chwarae pêl-droed ar raddfa oedran ar lefel Cymru; Colegau Cymru; Sir Caerdydd a’r Fro; ac ar gyfer carfanau Dan 17 a Dan 19 tîm Uwch-gynghrair Pêl-rwyd y Celtic Dragons.
- Mae llawer o gyn chwaraewyr wedi mynd ymlaen i brifysgolion chwaraeon blaenllaw ac yn datblygu gyrfaoedd mewn pêl-droed, gan ddychwelyd yn aml fel staff ‘intern’ i gefnogi gwaith hyfforddi a datblygu Academi Pêl-rwyd CAVC.
Cyfleusterau rhagorol
- Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd (CISC) a Pharc y Gamlas yng Nghampws Canol y Ddinas - sy’n cynnig cyfleusterau o dan do o’r safon orau, sy’n sicrhau y gellir cynnal sesiynau hyfforddiant a gemau trwy gydol y flwyddyn.
- Cyfleusterau campfa yn CISC ac yng Nghampws Canol y Ddinas i gefnogi hyfforddiant personol.
- Mae llety ar gael i fyfyrwyr o bell sy’n dymuno ymuno â CAVC ac un o’n hacademïau.
Hyfforddiant arbenigol proffesiynol
- Hyfforddiant pêl-rwyd proffesiynol bob wythnos
- Hyfforddwr ag arbenigedd ynghyd â phrofiad sylweddol o ran chwarae a hyfforddi.
Cryfder a chyflyru proffesiynol a chymorth cynhwysfawr
- Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru sy’n sicrhau rhaglen ddatblygu bersonol ar gyfer bob chwaraewr.
- Cyngor ynghylch maetheg a seicoleg.
- Dadansoddi perfformiad ar lefel tîm ac unigol.
Gornestau Ffantastig
- Gornestau cystadleuol o safon uchel, yn chwarae yn y gynghrair colegau genedlaethol.
- Cymryd rhan mewn twrnameintiau ledled y rhanbarth a Chymru.
Partneriaethau Proffesiynol
- Amgylchedd cefnogol sy’n caniatáu i chi barhau i chwarae i glybiau a chynghreiriau rhanbarthol, gyda’r mwyafrif o chwaraewyr yn chwarae yn Adrannau 1 a 2 yng nghynghrair Pêl-rwyd Rhanbarth Caerdydd a’r Fro, ochr yn ochr ag Academi Pêl-rwyd CAVC.
- Cysylltiadau cryf gyda Phêl-rwyd Cymru a phrifysgolion chwaraeon blaenllaw, sy’n caniatáu i ddysgwyr barhau i chwarae pêl-rwyd.
Cysylltiadau cyflym
Newyddion
Newyddion