E-chwaraeon

L2 Lefel 2
Llawn Amser
1 Medi 2025 — 19 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r diwydiant e-chwaraeon yn ddiwydiant byd-eang sy’n tyfu’n gyflym. Diffinnir e-chwaraeon fel gemau person yn erbyn person cystadleuol a drefnwyd, un ai fel unigolion neu mewn timau. Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys llu o sgiliau trosglwyddadwy sy’n galluogi dysgwyr i brofi e-chwaraeon mewn meysydd gwahanol i gefnogi eu datblygiad tuag at gyflogaeth, un ai’n uniongyrchol neu drwy astudiaeth bellach. Cefnogir y cymhwyster hwn gan Gymdeithas E-chwaraeon Prydain i fod yn addas ar gyfer dysgwyr sydd eisiau mynd i weithio yn y diwydiant. Golygai hyn y bydd yn cael ei adnabod gan gyflogwyr mewn ystod o rolau. Rhaid i ddysgwyr ddefnyddio strategaeth, sgil a gwaith tîm er mwyn llwyddo.

Cyflwynir y cwrs hwn ar Gampws Canol y Ddinas.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae cynnwys y cymhwyster hwn wedi’i ddatblygu mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol. Mae hyn yn sicrhau bod y cynnwys yn briodol ac yn cyd-fynd ag arfer diwydiant cyfredol er mwyn galluogi dysgwyr i gamu i fyd cyflogaeth neu astudiaethau pellach. Mae hwn yn gymhwyster sy’n canolbwyntio ar yrfa gyda chefnogaeth diwydiant, yn galluogi dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth sylfaenol a sgiliau technegol a throsglwyddadwy sy’n ennill profiad mewn amrywiaeth o feysydd gwahanol yn y diwydiant e-chwaraeon. Bydd y cymhwyster hwn yn cynnwys yr unedau canlynol:

  • Uned 1: Gemau, Timau a Thwrnameintiau E-chwaraeon
  • Uned 2: Sefydlu Sefydliad E-chwaraeon         
  • Uned 3: Ffrydio ar gyfer E-chwaraeon
  • Uned 4: Cynlluniwch Ddigwyddiad E-chwaraeon  
  • Uned 5: Dechrau Menter E-chwaraeon

Gofynion mynediad

4 TGAU A-D gan gynnwys Mathemateg a Saesneg. Mae angen cit gorfodol o tua £80 ar gyfer crysau T a hwdi a brynir gan Macron.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2025

Dyddiad gorffen

19 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

BSCC2F19
L2

Cymhwyster

Esports - Diploma

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

8.5%

Mae sector Esports y DU wedi tyfu ar gyfradd flynyddol o 8.5% rhwng 2016 – 2019 (Ukie 2020).

Ar ôl cwblhau’r cwrs E-chwaraeon Lefel 2, gall myfyrwyr symud ymlaen at y cwrs E-chwaraeon lefel 3.

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE