Beth am drawsnewid eich angerdd am chwarae gemau cyfrifiadurol gyda'n cwrs deinamig a grëwyd gydag arbenigwyr yn y diwydiant. Archwiliwch sgiliau hanfodol mewn marchnata digidol, rheoli digwyddiadau a chynhyrchu ar gyfer y cyfryngau. Cewch gyfle i gael mewnwelediad i ddiwylliant Echwaraeon, iechyd, a pherfformiad tra'n gweithio ar brosiectau byw.
Bydd ein cwricwlwm strwythuredig, o fodiwlau sylfaen i bynciau arbenigol, yn sicrhau eich bod wedi eich paratoi'n dda ar gyfer y diwydiant Echwaraeon sy'n symud yn gyflym. Cydweithredwch gyda gweithwyr proffesiynol, adeiladwch rwydweithiau a datblygu dealltwriaeth o'r llwybrau amrywiol o fewn Echwaraeon.
Ymunwch â ni i ddatgloi eich potensial yn y maes cyffrous hwn!
Beth fyddwch chi'n ei astudio
Blwyddyn 1: Canllawiau er mwyn Llwyddo
Modiwlau Blwyddyn 2: Arbenigedd a Chymhwysiad
Mae'r cwricwlwm cynhwysfawr hwn yn eich arfogi gyda'r sgiliau a'r wybodaeth sydd ei angen er mwyn ffynnu o fewn byd cyffrous Echwaraeon!
Mae gennym ystafelloedd dosbarth Echwaraeon arbenigol sydd wedi'u datblygu i gynnal a darparu amgylchedd echwaraeon ar gyfer dysgu.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Bydd y cwrs yn baratoad ar gyfer Addysg Bellach/Uwch neu gyflogaeth. Mae'r sgiliau hyn yn cael eu hystyried yn hanfodol o ran pobl ifanc y 21ain ganrif gan y sector addysg a'r diwydiant.