E-chwaraeon

L3 Lefel 3
Llawn Amser
1 Medi 2025 — 19 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs yn anelu at ddysgwyr creadigol a gwybodus o ran technoleg, gyda diddordeb mewn chwarae gemau, busnes, cyfryngau digidol ac e-chwaraeon. Mae’n cyfuno gemau cystadleuol gyda sgiliau mewn rheoli digwyddiadau, creu cynnwys, golygu fideos, brandio a’r cyfryngau cymdeithasol. Mae myfyrwyr yn ennill cymwysterau achrededig UCAS ac yn adeiladu portffolio ar gyfer eu gyrfa neu ar gyfer y brifysgol. Beth sy’n gwneud y cwrs yn unigryw yw ei fod yn canolbwyntio ar hyfforddi e-chwaraeon, llesiant meddyliol, seicoleg a phrosiectau perthnasol i'r diwydiant. Mae dysgwyr hefyd yn elwa o brofiad twrnameintiau go iawn, canllawiau brandio personol ac yn cael eu haddysgu gan diwtoriaid cysylltiedig â’r diwydiant gyda phrofiad bywyd go iawn o’r diwydiant.

Cynnydd a Phwyntiau UCAS

Blwyddyn 1 - Diploma UAL Lefel 3

Pwyntiau UCAS: Pasio (36) | Teilyngdod (60) | Anrhydedd (84)

Blwyddyn 2 - Diploma Estynedig UAL Lefel 3

Pwyntiau UCAS: Pasio (72) | Teilyngdod (120) | Anrhydedd (168)

Mae'r cymwysterau yn cefnogi datblygiad i’r brifysgol, prentisiaethau neu yrfaoedd ym maes e-chwaraeon, ffrydio, creu cynnwys a marchnata digidol, i enwi dim ond rhai.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r cwrs hwn yn cyfuno cynhyrchiad cyfryngau gyda diwydiant cynyddol, cyffrous e-chwaraeon, gan roi’r cyfle ichi adeiladu sgiliau technegol a gwybodaeth am y diwydiant drwy waith ymarferol.

Byddwch yn archwilio meysydd fel:

  • Fideo, sain a chynhyrchiad cyfryngau rhyngweithiol ar gyfer cynnwys fel uchafbwyntiau gemau, ffrydiau byw a deunydd hyrwyddol

  • Y diwydiant e-chwaraeon, gan gynnwys rolau tîm, fformatau digwyddiadau a’r busnes cynyddol y tu ôl i chwarae gemau’n gystadleuol

  • Brandio a hyrwyddo digidol, gan gynnwys sut i dyfu presenoldeb unigol neu dimau ar-lein

  • Ymgysylltiad a dadansoddiad cynulleidfa, yn eich helpu i ddeall sut i ddenu a chadw gwylwyr

  • Seicoleg a llesiant mewn perfformiad, yn cefnogi eich datblygiad personol mewn amgylcheddau cystadleuol

  • Sgiliau proffesiynol a throsglwyddadwy fel cyfathrebu, trefnu a gwaith tîm

  • Ymchwil a meddwl critigol, yn archwilio sut mae'r cyfryngau digidol a gemau yn parhau i esblygu

  • Byddwch hefyd yn gweithio ar brosiectau grŵp, fel briffiau, ac yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau e-chwaraeon

Cyfleusterau

Mae gennym ddwy ystafell ddosbarth e-chwaraeon arbenigol, gyda chyfrifiaduron Alienware, monitoriaid 27 modfedd 240hz, chwarae gemau, allweddellau, llygod, setiau pen a chadeiriau.

Disgwylir i’r cwrs gael ei ad-leoli i’r Campws ATC yn y Fro ym mis Medi 2027.  Bydd hyn yn darparu technoleg o’r radd flaenaf, gan arddangos beth y gall e-chwaraeon ei wneud fel diwydiant.

Gofynion mynediad

5 TGAU Graddau A* - C gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg (neu gyfwerth) neu gymhwyster Lefel 2 Esports gyda phroffil Teilyngdod a TGAU Graddau A*-C Saesneg Iaith a Mathemateg (neu gyfwerth). Bydd angen IELTS o 6.5 neu uwch ar fyfyrwyr rhyngwladol. Mae angen cit gorfodol o tua £80 ar gyfer crysau-T a hwdi gan Macron.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2025

Dyddiad gorffen

19 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

BSCC3F09
L3

Cymhwyster

Esport - Extended Certificate

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

8.5%

Mae sector Esports y DU wedi tyfu ar gyfradd flynyddol o 8.5% rhwng 2016 – 2019 (Ukie 2020).

Datblygiad i Addysg Uwch fel ein Gradd Sylfaen mewn E-chwaraeon.

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE