*Yn amodol ar ddilysiad
Mae’r elfen ESOL o’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar y sgiliau iaith – darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad. Bydd gramadeg a geirfa arbenigol mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithas/gofal plant hefyd yn ffurfio rhan bwysig o’r cwrs hwn. Bydd myfyrwyr yn gallu datblygu’r meysydd hyn a fydd yn helpu i’w cefnogi gyda’r elfen Iechyd a Gofal Cymdeithasol/Gofal Plant o’r cwrs.
Mae’r cwrs yma ar gael am:
Dyma’r unedau y byddwch yn ymdrin â hwy ar y cwrs Gofal Plant ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
Darperir y modiwlau hyn o’r cwrs gan arbenigwyr pwnc sydd â phrofiad ymarferol o weithio o fewn y proffesiwn Iechyd a Gofal Cymdeithasol/Gofal Plant. Mae’r cwrs hwn yn paratoi dysgwyr ar gyfer ystod o gymwysterau lefel uwch gan gynnwys Sylfaen i Oedolion, Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 a Lefel 3, neu Ddiploma QCF.
Bydd y cwrs yn paratoi dysgwyr ar gyfer cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol mewn ESOL ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol/Gofal Plant. Bydd myfyrwyr hefyd yn astudio Rhifedd fel rhan o’r rhaglen, a fydd hefyd yn arwain at gymhwyster cydnabyddedig. Bydd myfyrwyr sy’n cofrestru ar y cyrsiau hyn angen ymrwymo’n llawn gan ein bod yn disgwyl cyfradd presenoldeb o 100%. Bydd myfyrwyr y mae eu presenoldeb yn disgyn o dan 90% yn wynebu’r risg o golli eu lle.
Asesiad ar Lefel 2. Fel dewis arall, cwblhau Lefel 1 yn llwyddiannus a geirda boddhaol gan diwtor i ddynodi ymddygiad, presenoldeb a chynnydd da.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Symudais o Rwmania ddwy flynedd a hanner yn ôl. Dechreuais yn y coleg yn astudio cwrs ESOL, ac rwyf nawr wedi symud ymlaen i astudio Cwrs Mynediad mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol BTEC. Roedd y cwrs ESOL yn ddefnyddiol iawn, ac roedd pawb yn gyfeillgar.