*Yn amodol ar ddilysiad
Mae'r cwrs Lefel Mynediad 3 yma yn bedwar diwrnod o hyd ac mae myfyrwyr yn mynychu am 16 awr yr wythnos. Cynhelir rhai gwersi ar safle CCTC ar Heol Dumballs.
Mae'r elfen ESOL o'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar sgiliau iaith darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad. Mae gramadeg a geirfa arbenigol sydd yn berthnasol â gwaith coed mewn adeiladwaith yn allweddol i'r rhan yma o'r cwrs, a bydd myfyrwyr yn gallu datblygu'r meysydd hyn fydd yn gefnogaeth iddynt yn elfen Gwaith Coed mewn Adeiladwaith y cwrs.
Mae oferôls ac esgidiau diogelu yn ofynnol.
Bydd y cwrs yn datblygu eich gwybodaeth a sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â gweithdrefnau adeiladu a gwaith coed, a byddwch yn ymdrin ag ystod o weithgareddau, ac yn ennill profiad o offer crefft gwaith coed. Byddwch yn astudio:
Cynhelir y sesiynau ymarferol hyn mewn gweithdai gyda'r holl adnoddau, ac yn caniatáu dysgwyr i ddod yn gyfarwydd gyda gweithio mewn amgylchedd adeiladu.
Mae'r cwrs hwn yn ffurfio'r wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen i ddilyn y cwrs Sylfaen mewn Adeiladu a'r Amgylchedd.
Asesiad ar Lefel Mynediad 3. Fel dewis arall, cwblhau Lefel Mynediad 2 yn llwyddiannus a geirda boddhaol gan diwtor i ddynodi ymddygiad, presenoldeb a chynnydd da.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Cyrhaeddais yma o Eritrea cwpwl o flynyddoedd yn ôl gyda’r nod o wella fy Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac ennill sgiliau newydd y gallaf eu defnyddio ar gyfer gwaith. Rwyf yn fy ail flwyddyn yn y Coleg ac ar hyn o bryd rwyf ar y rhaglen ESOL+, sydd hefyd yn fy ngalluogi i dreulio amser yn astudio Cyfrifeg.
Rwyf wirioneddol wedi mwynhau fy amser yma yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ac wedi gwneud llawer o ffrindiau o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd. Mae’r athrawon wedi bod yn hynod gefnogol drwy gydol fy amser yma, ac mae’r Ganolfan Sgiliau yn arbennig wedi bod yn fuddiol iawn i mi. Mae fy Saesneg wedi gwella cymaint ac rwy’n falch iawn o’r cynnydd rwyf wedi’i wneud. Yn y dyfodol, rwy’n edrych ymlaen at orffen fy nghwrs yna dod o hyd i swydd yma yn y DU.