*Yn amodol ar ddilysiad
Mae'r cwrs ESOL hwn ar gyfer myfyrwyr o unrhyw oed, sydd eisiau gwella a datblygu eu sgiliau Saesneg a hefyd sgiliau a fydd yn eu helpu nhw i ddod yn fwy cyflogadwy. Byddwn yn edrych ar yr holl gamau er mwyn cael y swydd berffaith, neu'r swydd rydych ei hangen fel cam ymlaen tuag at eich swydd ddelfrydol.
Mae'n addas i fyfyrwyr nad oes ganddynt unrhyw brofiad gwaith, neu rai gydag ychydig o brofiad gwaith yn y DU, neu wledydd eraill. Bydd myfyrwyr yn ceisio ennill cymhwyster yn y prif sgiliau ieithyddol yn ogystal â chymhwyster BTEC mewn Sgiliau Gweithio.
Bydd myfyrwyr yn astudio'r modiwlau canlynol;
At ddibenion cyffredinol a bydd yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau.
Bydd y sesiwn gyflogadwyedd yn canolbwyntio ar greu CV ddeniadol ac ysgrifennu llythyrau cais swyddi nodweddiadol a datblygu sgiliau mae cyflogwyr eu hangen, gan ffocysu ar iaith ffurfiol a chyflwyniadau hyderus. Yn olaf, byddwch yn cymryd rhan mewn ffug gyfweliadau swydd a fydd yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth.
Gwneir asesiadau addysgu trwy aseiniadau ac asesiadau rheolaidd.
Gall myfyrwyr barhau â'u haddysg ESOL ar lefel uwch neu gychwyn cyflogaeth.
Asesiad ar Lefel 1. Fel dewis arall, cwblhau Lefel Mynediad 3 yn llwyddiannus a geirda boddhaol gan diwtor i ddynodi ymddygiad, presenoldeb a chynnydd da.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Fe ddes i i’r DU tua dwy flynedd yn ôl, a dechreuais yn y coleg yn ddiweddar. Rwyf eisoes wedi cael fy newis i fod yn gynrychiolydd cwrs ac rwy’n mwynhau dod i’r coleg. Dewisais ddod i’r coleg hwn gan fod cymaint i’w wneud yma. Fy hoff ran o’r coleg hwn yw’r ganolfan sgiliau. Yn y ganolfan sgiliau mae rhywun yno i’ch helpu bob amser os ydych chi’n cael trafferth gyda’ch gwaith, ac mae pentwr o lyfrau ar gael. Ar ôl gorffen fy nghwrs ESOL, rwy’n edrych ymlaen at barhau a’m haddysg. Rwyf wedi dewis arbenigo mewn Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, gan fy mod eisiau rhoi’n ôl i’r gymuned drwy helpu pobl. Byddwn i’n dweud wrth unrhyw un sy’n ceisio penderfynu a ydych am ddod ai peidio, os oes gennych chi freuddwyd, a’ch bod chi eisiau cyflawni’ch amcanion, peidiwch byth â rhoi’r gorau iddi; yn fy ngwlad enedigol, nid yw pawb yn cael addysg, ac mae’n gyffrous iawn cael dechrau fy mywyd newydd yn CAVC.