Cefnogaeth Lles
Cefnogi myfyrwyr i gael gwell lles emosiynol a chadernid.
Beth yw Lles?
Cefnogaeth i ddysgwyr sy’n cael trafferth gyda materion personol, cymdeithasol neu emosiynol a allai gael effaith arnyn nhw eu hunain neu eu profiad yn y coleg.
Canolfannau Lles
Mae gan bob Campws Ganolfan / lle dynodedig i ddysgwyr gael gafael ar wasanaeth Lles.
Cwnsela
Mae staff sydd wedi’u hyfforddi’n broffesiynol ar gael i helpu a chefnogi dysgwyr i’w galluogi i aros ar y trywydd iawn gyda’u proses ddysgu.
Awgrymiadau Da
Dyma rai ‘Awgrymiadau Da’ ar ofalu amdanoch chi’ch hun a dolenni a allai fod yn ddefnyddiol i chi.