Awgrymiadau Da

Dyma rai ‘Awgrymiadau Da’ ar ofalu amdanoch chi’ch hun a dolenni a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Fe welwch isod rai awgrymiadau ar dechnegau dibynadwy a allai helpu i hybu lles emosiynol, bod yn garedig gyda chi’ch hun a chadw’n iach, yn enwedig mewn amseroedd anodd.

  • Siarad – gallai hyn fod â ffrind, aelod o’r teulu neu oedolyn rydych yn ymddiried ynddo. Mae rhai o’r dolenni isod yn cynnwys gwasanaethau sgwrsio ar-lein, rhadffonau a gwasanaethau testun
  • Gweithgaredd corfforol – unrhyw beth sy’n codi cyfradd curiad y galon, yn cael eich gwaed i bwmpio ac yn rhyddhau endorffinau (hormonau hapus). Mae llawer o bobl yn ystyried gweithgarwch corfforol yn ffordd wych o gael gwared ar deimladau o ddicter a rhwystredigaeth a thynnu eu meddwl oddi ar bryderon
  • Awyr iach – gall bod y tu allan wneud i chi deimlo’n well, gallech fynd ar daith gerdded, cicio pêl, mynd i’r traeth, mynd â’r ci am dro, gwylio’r haul yn machlud, mae’r rhestr yn ddiddiwedd!
  • Bod yn greadigol – Lliwio, tynnu llun, ysgrifennu cerdd, stori, geiriau, llythyr ac ati. Nid oes yn rhaid i’r hyn rydych chi’n ei gynhyrchu fod yn berffaith, y broses o eistedd, canolbwyntio ar dasg a bod yn dawel sy’n helpu.
  • Gofalu amdanoch chi’ch hun! Mwynhewch ychydig o amser tawel. Gallai hyn gynnwys darllen llyfr, cael bath, coginio pryd o fwyd blasus, gwrando ar gerddoriaeth, gwylio eich hoff ffilm. Weithiau mae’n anodd neilltuo amser i ofalu amdanom ein hunain, ond byddwch yn teimlo’n well ar ôl gwneud.

Dolenni defnyddiol i ddysgwyr:
https://www.samaritans.org/
https://www.childline.org.uk/
https://www.studentsagainstdepression.org/
https://youngminds.org.uk/