Gall dysgwyr gael mynediad i’r Ganolfan ar unrhyw adeg yn y coleg, mae’n lle diogel os ydynt yn awyddus i drafod unrhyw beth. Gall ein Swyddogion Lles cyfeillgar gynnig cyngor ac arweiniad a helpu i gefnogi dysgwyr gydag unrhyw broblemau sydd ganddynt.
Mae’r Ganolfan yn darparu lle i ddysgwyr:
- Gael tawelwch i gymryd seibiant byr o’u gwersi os oes angen.
- Gael gafael ar gefnogaeth eiriolaeth a chyfeirio at bethau fel cwnsela, cyllid, gyrfaoedd a chysylltu â rhieni a gofalwyr.
- Gael cyfle i rannu meddyliau a theimladau.
- Gael cymorth ac arweiniad i helpu i hybu eu lles emosiynol a’u gwytnwch yn ddiogel.
- Gael gafael ar y cynllun Cerdyn-C a chyngor ar iechyd rhywiol.