Beth yw Lles?

Cefnogaeth i ddysgwyr sy’n cael trafferth gyda materion personol, cymdeithasol neu emosiynol a allai gael effaith arnyn nhw eu hunain neu eu profiad yn y coleg.

Mae tîm lles ymroddedig Coleg Caerdydd a’r Fro yn cynnig ystod amrywiol o gymorth i ddysgwyr a allai fod yn wynebu amrywiaeth o faterion sy’n gwneud bywyd o ddydd i ddydd yn anoddach. Materion fel pryderon iechyd meddwl, materion cyffuriau neu alcohol, perthnasoedd ac iechyd rhywiol, trafferthion teuluol ac ati.  
Gall ein tîm cyfeillgar gynnig y canlynol:

  • Cyngor ac arweiniad ar ystod o faterion lles
  • Darparu cefnogaeth emosiynol a chlust i wrando
  • Sesiynau galw heibio 1 i 1 
  • Atgyfeiriadau at ddulliau cymorth eraill y coleg 
  • Atgyfeiriadau at asiantaethau allanol fel Llamau, SHOT, y Gwasanaeth Lles Emosiynol, Prosiect Ambr ac ati.
  • Darparu condomau am ddim sydd ar gael o’r Canolfannau Lles 
  • Cefnogi dysgwyr Ysbrydoli i Gyflawni (I2A), i gwblhau sêr canlyniadau a nodi anghenion. 
  • Gweithio gyda rhieni/gofalwyr i gefnogi dysgwyr gyda’u caniatâd.
  • ‘Gweithdai grŵp cnoi cil’ ar amrywiaeth o bynciau

Rydym eisiau i ddysgwyr deimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu bod yn ddiogel ac yn hapus yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro i’w galluogi i symud ymlaen ym mhob agwedd ar fywyd a/neu waith.