Gwybodaeth i Rieni, Gofalwyr a Gwarcheidwaid

Cyngor ac arweiniad i rieni a gofalwyr ar sut mae myfyrwyr yn cael eu cefnogi yn y coleg

Yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro rydym yn deall bod symud o ysgol i goleg yn gam mawr ym mywyd person ifanc. Ein nod ni yw agor y cyfathrebu i sicrhau bod eich mab/merch yn cael y gefnogaeth ofynnol. Mae'r coleg yn ceisio adeiladu ar yr hyn sydd wedi'i ddysgu eisoes yn yr ysgol gan symud dysgwyr ymlaen i gyflogaeth, astudiaethau pellach, prentisiaethau neu gefnogaeth bellach gan ein sefydliadau partner.

Sut mae'r coleg yn gwybod bod myfyrwyr angen mwy o help a beth ddylwn ei wneud os ydw i'n credu bod gan fy mab/merch anghenion dysgu ychwanegol?

  • Mae anghenion dysgwyr yn cael eu nodi gan yr ysgolion sy'n bwydo neu aelod o Gyrfa Cymru
  • Bydd aelod o'r tîm pontio'n mynychu adolygiadau ysgol ar gyfer y dysgwyr ADY
  • Ar ffurflen gais y coleg bydd dysgwyr yn cael eu hanog i ddatgelu anabledd neu rwystr i ddysgu
  • Mae'r tim cefnogi ADY wrth law yn ystod nosweithiau agored a digwyddiadau derbyn i drafod anghenion cefnogi.
  • Bydd tiwtoriaid a darlithwyr yn gallu cyfeirio dysgwyr, gyda'u caniatâd, at y tîm ADY os ydynt yn teimlo bod y dysgwr angen mwy o gefnogaeth i gyflawni eu potensial llawn.
  • Bydd rhieni a/neu ddysgwyr yn gallu cyfeirio'u hunain at y tîm ADY ar unrhyw adeg.

Sut bydd fy mab/merch yn cael ei gefnogi a'i baratoi cyn/ar ôl mynychu/gadael y coleg?

Mae'r pontio i'r coleg i'ch mab/merch yn dechrau yn eu blwyddyn academaidd olaf yn yr ysgol. Gall hyn fod yn flwyddyn 11 neu 13.

Unwaith mae cais wedi cael ei wneud, bydd eich mab/merch yn cael gwahoddiad i ddod i ddigwyddiadau derbyn i drafod y cwrs maen nhw wedi dewis ei ddilyn, gweld y coleg a chyfarfod y tîm cefnogi.

I'r dysgwyr hynny sydd angen cyfnod pontio mwy arbenigol e.e, dysgwyr gyda Datganiad o Anghenion Addysgol, bydd ein tîm pontio'n mynychu'r Adolygiad Blynyddol i'w helpu i wneud cais i'r coleg ac yn cysylltu gyda'r ysgol bresennol i gasglu gwybodaeth ychwanegol am anghenion academaidd a chefnogi'r dysgwr.

Fe all sawl asiantaeth fod yn gysylltiedig yn y cyfnod pontio, gan gynnwys Gyrfa Cymru, Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Gall hyn gynnwys cyfarfod amlddisgyblaethol i bawb sydd neu fydd yn cefnogi'r dysgwr yn ei leoliad yn y dyfodol yn y coleg.

Sut byddaf yn gwybod bod fy mab/merch yn gwneud cynnydd?

Bydd y staff addysgu a chefnogi'n adolygu'r cynnydd mae'r dysgwyr yn ei wneud yn rheolaidd. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chyfathrebu i chi trwy ddulliau amrywiol. Bydd y staff addysgu a chefnogi'n pennu targedau ar gyfer dysgwyr a bydd y rhain yn cael eu cynnwys yn y gwersi, gan adnabod unrhyw rwystrau sy'n atal dysgu a rhoi strategaethau priodol yn eu lle.

Mae'r tîm ADY, ar y cyd â'r staff addysgu, yn cynnal adolygiadau gyda'u dysgwyr sy'n cael cefnogaeth. Rydym bob amser yn ceisio gosod y dysgwr yn ganolog yn yr adolygiadau a chydnabod cyfraniadau rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid at y broses.

Mae croeso i Rieni/Gofalwyr/Gwarcheidwaid ddod i mewn i'r coleg i drafod cynnydd eu person ifanc ar unrhyw adeg yn ystod blwyddyn academaidd y coleg.

Cefnogaeth Lles

Cefnogi myfyrwyr i gael gwell lles emosiynol a chadernid.

Gwybodaeth i Rieni, Gofalwyr a Gwarcheidwaid

Cyngor ac arweiniad i rieni a gofalwyr ar sut mae myfyrwyr yn cael eu cefnogi yn y coleg

Gwybodaeth i Rieni, Gofalwyr a Gwarcheidwaid

Cyngor ac arweiniad i rieni a gofalwyr ar sut mae myfyrwyr yn cael eu cefnogi yn y coleg