Hwb ADY

Ardal gefnogaeth galw heibio i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, anableddau neu broblemau iechyd meddwl.

Cymorth a gwagle galw-mewn ar gyfer myfyrwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau. 

Ar ein dau brif gampws (Caerdydd, Canol y Ddinas a’r Fro, Heol Colcot) mae gennym Hybiau ADY galw heibio. Ym mhob Hwb mae aelod o’r tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Anabledd a fydd ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener i’ch helpu chi gydag unrhyw ymholiadau.

Cewch fynd i’r Hwb ar unrhyw adeg yn ystod eich cyfnod yn y coleg ac mae’n lle diogel os ydych chi eisiau trafod unrhyw beth. Gall ein tîm cyfeillgar gynnig cyngor ac arweiniad i chi a helpu i’ch cefnogi gydag unrhyw broblemau sydd gennych chi.

Hwb ADY

(8:30 - 4:30 Llun-Iau & 8:30 - 4:00 Gwener)

Mae’r Hwb yn darparu lle ar gyfer dysgwyr, i wneud y canlynol:

  • Cael lle tawel i weithio neu i gael seibiant byr o wersi yn ein hardal dawel.
  • Cael cefnogaeth eirioli a chyfeirio gan y tîm cefnogi ar gyfer pethau fel cwnsela, cyllid, gyrfaoedd a chysylltu â rhieni a gofalwyr.
  • Defnyddio ein casgliad o liniaduron, iPads a chyfrifiaduron personol i weithio ac astudio.
  • Mynychu sesiynau galw heibio ar gyfer cefnogaeth tu allan i’r dosbarth.
  • Mynychu sesiynau Technleg Gynorthwyol i’ch helpu i fod yn fwy annibynnol.
  • Lle diogel i gael cefnogaeth ac arweiniad i helpu i hybu eich lles emosiynol.

Yr Hive

Yng Nghampws Canol y Ddinas, yng Nghaerdydd, byddwch hefyd yn gallu cael mynediad i’r Hive. Mae'r Hive yn le ar gyfer ymyriad pwrpasol ar gyfer dysgwyr ag ADY.

Mae'r Hive yn darparu lle i'r dysgwr:

  • Fynychu sesiynau Technoleg Cynorthwyol i'ch helpu i ddod yn fwy annibynnol.
  • Gael gwersi gyda'n Darlithydd Arbenigol SpLD.
  • Fynychu clybiau ar gyfer dysgwyr sydd â chyflyrau Cyflwr y Sbectrwm Awtistig a Chyfathrebu Cymdeithasol.
  • Adolygiadau o Gynlluniau Datblygu Unigol sy'n canolbwyntio ar y person a chynnydd yn y coleg.
  • Cwrdd ag asiantaethau allanol.

Cefnogaeth Lles

Cefnogi myfyrwyr i gael gwell lles emosiynol a chadernid.

Hwb ADY

Ardal gefnogaeth galw heibio i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, anableddau neu broblemau iechyd meddwl.

Hwb ADY

Ardal gefnogaeth galw heibio i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, anableddau neu broblemau iechyd meddwl.