Beth yw Prentisiaeth

Yn syml iawn, mae prentisiaethau'n ffordd o ennill cyflog tra rydych yn dysgu.

Cewch gymhwyso trwy weithio a hyfforddi wrth ennill cyflog. Fel Prentis bydd rhaid i chi fod yn gyflogedig yn y maes rydych chi eisiau gweithio ynddo ac, ar yr un pryd, byddwch yn datblygu eich sgiliau penodol i swydd drwy gyfuniad o ddysgu yn y swydd a hyfforddiant yn y coleg. Fel rhan o'ch amser yn y gwaith byddwch yn datblygu eich sgiliau proffesiynol bob wythnos ac yn dysgu oddi wrth gydweithwyr profiadol a thrwy brofiadau uniongyrchol yn y gweithle. Yn y Coleg, bydd eich tiwtoriaid, sy'n arbenigwyr yn eu maes, yn rhoi'r holl hyfforddiant gofynnol i chi ar gyfer eich sector a byddwch yn gweithio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol. Mae eich cyflogwr yn gadael i chi fynd i'r coleg am un diwrnod yr wythnos fel rheol, i ennill y cymwysterau gofynnol ar gyfer y swydd honno. Cyfuniad perffaith!  

Cysylltiadau

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cysylltwch â'n Tîm Prentisiaid ar 

Ff: 01446 748212
E: apprenticeships@cavc.ac.uk

Gwahanol lefelau o Brentisiaethau

Beth bynnag yw eich lefel, mae yna wahanol fframweithiau prentisiaeth sy'n addas ar gyfer pawb. Pa un a ydych newydd adael yr ysgol, wedi graddio neu eisoes yn gyflogedig, gallwn eich helpu i ddod o hyd i'r man cychwyn cywir.

Math o Brentisiaeth  Cymhwyster Cyfatebol Prentisiaeth

Prentisiaeth Sylfaen

Sylfaen Cyfateb i bum TGAU da Prentisiaid yn gweithio tuag at gymwysterau seiliedig ar wybodaeth a hyfedredd ar Lefel 2 (fel NVQ Lefel 2) a hefyd Sgiliau Hanfodol.

Cyfwerth â phum pas TGAU da.

Prentisiaeth

Sylfaen Cyfateb i bum TGAU da Prentisiaid yn gweithio tuag at gymwysterau seiliedig ar wybodaeth a hyfedredd ar Lefel 3 (fel NVQ Lefel 3) a hefyd Sgiliau Hanfodol.

Cyfwerth â dau basyn Safon Uwch

Prentisiaeth Uwch

Sylfaen Cyfateb i HNC/HND neu lefel Gradd Sylfaen ac uwch Mae prentisiaid yn gweithio tuag at gymwysterau seiliedig ar wybodaeth a hyfedredd ar Lefel 4/5 (fel NVQ Lefel 4 neu uwch) a hefyd Sgiliau Hanfodol.

Yn gyfwerth â lefel HNC / HND neu Radd Sylfaen ac uwch