Sut i sicrhau prentisiaeth

Os ydych chi dros 16 oed, yn byw yng Nghymru a ddim mewn addysg llawn amser gallwch wneud cais am Brentisiaeth. Yn gyntaf, byddwch angen cyflogwr. Cewch ychydig o awgrymiadau da gyda’n canllaw cam wrth gam isod.

Cam 1

Dod o hyd i gyflogwr – mae Gyrfa Cymru yn cyhoeddi llefydd Prentisiaeth gwag drwy’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau lle gallwch chwilio am lefydd gwag ledled Cymru. Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn gweithio gyda nifer o gyflogwyr bob blwyddyn i gynnig Prentisiaethau. Ewch i www.careerswales.com/cy/ i weld y llefydd gwag diweddaraf. Gallwch weld rhai o’n llefydd gwag yma, ar y safle hwn. Weithiau mae llefydd prentisiaeth gwag yn cael eu hysbysebu yn adrannau swyddi papurau newydd neu gallech hefyd gysylltu â chyflogwr yn uniongyrchol. Os ydych eisoes yn cael eich cyflogi, gallwn gynnig cyngor ac arweiniad i chi a’ch cyflogwr ar y broses o drefnu rhaglen brentisiaeth ar eich cyfer.

Cam 2

Cysylltwch gyda ni - Cysylltwch â'n tîm Prentisiaethau i drafod a ydych chi'n gymwys i gael rhaglen Brentisiaeth. Ffoniwch 01446 748212 neu anfonwch e-bost at apprenticeships@cavc.ac.uk i wneud cais am Brentisiaeth CAVC sy'n cael ei redeg ar safleoedd Coleg Caerdydd a'r Fro. Bydd gofyn ichi ymgymryd ag asesiad cychwynnol llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol a chyfweliad cyn cam 3.

Cam 3

Y cytundeb - byddwch chi, eich cyflogwr a'r Coleg yn cytuno ar raglen ddysgu prentisiaeth.

Cam 4

Gwnewch gais a chofrestrwch yn CAVC - cwblhewch y broses trwy gofrestru ar eich rhaglen hyfforddiant prentisiaeth ac rydych yn barod i ddechrau arni.

Am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais, e-bostiwch apprenticeships@cavc.ac.uk a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.

Gofynion Mynediad

Gall unrhyw un sydd dros 16 oed, sy'n byw yng Nghymru a ddim mewn addysg amser llawn wneud cais am Brentisiaeth. Bydd angen i chi gael cyflogaeth yn y sector yr hoffech weithio ynddi cyn gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro am eich hyfforddiant (gweler tudalen 6 am fanylion ar ddod o hyd i gyflogwr ar gyfer eich prentisiaeth). Bydd angen i chi hefyd gynnal asesiad cychwynnol mewn rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol. Os ydych eisoes wedi'ch cyflogi, yna gallwn weithio gyda chi a'ch cyflogwr i drefnu rhaglen brentisiaeth sy'n addas i chi.