Gwybodaeth i rieni, gofalwyr a gwarcheidwaid

Gwybodaeth ddefnyddiol i rieni a gwarcheidwaid

Rydym yn deall eich bod chi fel rhiant neu warcheidwad eisiau'r gorau i'ch mab neu eich merch. Yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, rydym yn credu bod rhaid i bobl ifanc ddysgu rheoli eu hamser eu hunain, edrych ar opsiynau a gweld beth maent yn dda am ei wneud. Mae'r Coleg yn gweithio i ysbrydoli pobl ifanc i ddatblygu angerdd dros yr hyn maent yn ei astudio mewn amgylchedd llwyddiannus sy'n gwneud cyfraniad gwirioneddol at ddyheadau myfyrwyr. Cefnogir myfyrwyr drwy eu hastudiaethau gan gyfuniad o wasanaethau tiwtor pwnc a phersonol, gydag adborth a chyfarwyddyd rheolaidd.

Nosweithiau Agored

Mae'r rhain yn cael eu trefnu i arddangos CAVC i bobl ifanc, fel eu bod yn gallu cael profiad o'r Coleg, gweld y cyfleusterau a chyfarfod y staff a allai fod yn eu haddysgu. Mae llawer o rieni a gwarcheidwaid yn dod i gefnogi eu plant hefyd ac i weld popeth drostynt eu hunain!

Cefnogaeth

Mae pobl ifanc yn cael yr un faint o gefnogaeth ag y byddent mewn ysgol, os nad mwy. Ceir proses asesu sy'n gosod y myfyriwr ar gwrs sy'n addas o ran lefel i'w alluoedd a bydd cyflwyniad i groesawu'r myfyriwr i'r coleg.

Cyflwynwch gais yn gynnar!

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro'n dechrau cyfweld ym mis Tachwedd, ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau yn y mis Medi dilynol, felly cofiwch atgoffa eich plentyn neu eich person ifanc i gyflwyno ffurflen gais yn gynnar, fel eu bod yn cael cynnig lle ar y cwrs sy'n ddewis cyntaf ganddynt.

Bywyd myfyrwyr

Mae bywyd y myfyrwyr yn un llawn bwrlwm yn CAVC. Gall pobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau gan gynnwys timau ac academïau chwaraeon, ystafelloedd ffitrwydd, heriau menter, gweithgareddau awyr agored, clybiau a digwyddiadau. Mae siaradwyr gwadd a chystadlaethau drwy gydol y flwyddyn hyd yn oed.

Canllaw i Rieni - Saesneg