Yn ystod eich cyfnod fel myfyriwr yn CCAF, gallech fod yn gymwys am gymorth ariannol i’ch helpu i ddod i’r coleg neu i astudio.
Gallech fod yn gymwys i gael teithio ar fws neu drên am ddim i’ch helpu i deithio yn ôl ac ymlaen o’r coleg.
Os ydych chi wedi cofrestru ar gwrs coleg llawn amser yn CCAF, yn 16-18 oed ac yn byw 3 milltir neu fwy o’r campws lle rydych yn astudio, gallwch wneud cais am docyn teithio am ddim neu am bris gostyngedig ar gyfer naill ai bws neu drên. Nid yw hyn yn dibynnu ar brawf modd ac mae’r tocyn ar gael i bob myfyriwr cymwys.
Rydych yn talu ffi dymhorol i'r coleg i gael eich tocyn. Mae’r ffi hon yn dibynnu ar lle rydych chi’n byw:
Lle rydych chi’n byw | Ffi dymhorol |
Parth 1 a 2: Yn byw yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg neu awdurdodau lleol cyfagos Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Caerffili neu Gasnewydd. | £50 y tymor neu £150 y flwyddyn |
Parth 3: Sir Fynwy, Torfaen, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot. | £100 y tymor neu £300 y flwyddyn |
Gellir talu’r ffi hon yn dymhorol erbyn dyddiadau penodol ym mis Medi (ar gyfer Tymor 1), mis Rhagfyr (ar gyfer Tymor 2) a mis Mawrth (ar gyfer Tymor 3) neu fel taliad untro blynyddol ym mis Medi. Ni ellir ad-dalu'r ffi hon.
Rhaid ichi wneud cais a thalu’r ffi cyn y gellir prosesu’r tocyn. Gellir cyhoeddi ac anfon tocynnau bws o fewn 2 ddiwrnod gwaith fel arfer, gall tocynnau trên gymryd hyd at 10-15 diwrnod gwaith.
Gwnewch gais heddiw am eich tocyn teithio am bris gostyngedig
Incwm yr aelwyd yn llai na £25,974?
Gallech fod yn gymwys i gael teithio am ddim, heb dalu ffi dymhorol.
Os ydych chi’n gymwys am docyn bws neu drên ac os yw incwm eich aelwyd yn llai na £25,974, gallwch wneud cais am gymorth ariannol a all dalu eich ffi deithio dymhorol er mwyn i’ch tocyn fod yn rhad ac am ddim. Gallwch hefyd wneud cais am gymorth am brydau bwyd am ddim yn y coleg neu gostau eraill yn ymwneud â dod i'r coleg ar yr un pryd. I wneud hyn, cwblhewch Ran 2 yn y ffurflen gais a atodir uchod hefyd. Dim ond unwaith y bydd angen ichi wneud cais, hyd yn oed os ydych chi’n ceisio cymorth gyda mwy nag un gost.
Noder: mae’r holl gymorth ariannol a gynigir yn dibynnu ar y cyllid coleg sydd ar gael a gall y cyllid sydd ar gael newid. Ni ellir gwarantu cymorth tan y byddwch wedi derbyn cadarnhad ysgrifenedig.
Gall holl ddysgwyr CCAF ddefnyddio ein CAVC Rider.
Mae’n rhedeg bob dydd rhwng ein Campws Canol y Ddinas, Caerdydd, Campws Chwaraeon Rhyngwladol, Campws y Barri a'r Ganolfan Ryngwladol Hyfforddiant Awyrofod (ICAT).
I ddefnyddio’r bws, dim ond dangos eich Bathodyn Cerdyn Adnabod CCAF i’r gyrrwr sydd angen ichi ei wneud.
Os yw incwm eich aelwyd yn llai na £25,974, gallech fod yn gymwys i wneud cais am y cymorth ariannol canlynol.
Taliad wythnosol o £40 yw EMA i gefnogi pobl ifanc 16-18 oed gyda chostau astudio. Darperir y taliad drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru. Gwneir taliadau bob pythefnos, cyn belled â’ch bod yn bodloni gofynion presenoldeb y coleg.
Gallech fod yn gymwys os ydych chi’n astudio cwrs llawn amser yn CCAF ac os ydych yn gallu ateb ydw i bob un o’r rhain:
I weld y meini prawf cymhwystra llawn, ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru yma
Angen cymorth i lenwi'r ffurflen?
Cysylltwch â’n Tîm Cyllid Myfyrwyr drwy StudentFinanceTeam@cavc.ac.uk
Gallwch hefyd wneud cais am gymorth gyda chostau eraill drwy Gronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF) y Coleg. Gall y gronfa hon, sy’n cael ei darparu i’r coleg gan Lywodraeth Cymru, dalu costau gan gynnwys:
Cronfa | Cymhwystra ar gyfer myfyrwyr 16-18 oed |
Prydau bwyd am ddim yn y coleg | 16-18 oed, yn unol â meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer Prydau Ysgol am ddim |
Ffi tocyn teithio | 16-18 oed, yn gymwys ar gyfer tocyn teithio a Lwfans Cynhaliaeth Addysg |
Cit/Offer | 16-18 oed, yn gymwys ar gyfer Lwfans Cynhaliaeth Addysg ac offer cit cymeradwy neu ffi arall sydd angen ei thalu ar gyfer y cwrs |
Gofal Plant | Incwm aelwyd llai na £25,000. Darperir cyllid ar gyfer un plentyn yn unig hyd at swm penodol. |
Gwneud cais am gymorth ariannol
Os ydych chi’n gwneud cais am docyn teithio, cwblhewch adran 1 a 2. Os nad ydych yn gwneud cais am docyn teithio, dim ond am gymorth gyda chostau eraill fel cit neu ofal plant, cwblhewch adran 2 yn unig. Dim ond unwaith y bydd angen ichi wneud cais, hyd yn oed os ydych chi’n ceisio cymorth gyda mwy nag un gost.
Gwnewch gais heddiw am Gymorth Ariannol ar gyfer costau eraill
Noder: mae’r holl gymorth ariannol a gynigir yn dibynnu ar y cyllid coleg sydd ar gael a gall y cyllid sydd ar gael newid. Dyfarniadau dewisol yw'r Dyfarniadau Ariannol Wrth Gefn, nid hawl. Mae cronfeydd yn gyfyngedig ac nid yw cyflwyno cais yn gwarantu dyfarnu cyllid. Nid yw ceisiadau am Gronfeydd Ariannol Wrth Gefn yn gwarantu dyfarnu cyllid - mae ceisiadau’n cymryd hyd at 4 wythnos i gael eu hasesu ac ni ellir gwarantu cymorth tan ichi dderbyn cadarnhad ysgrifenedig. Dyfernir cyllid i ddysgwyr cymwys ar sail y cyntaf i’r felin.
Mae’r coleg wedi cofrestru dan y Ddeddf Diogelu Data. Dim ond at y dibenion yng nghofnod cofrestru’r Coleg dan y Ddeddf y bydd data personol yn cael ei gasglu a’i ddefnyddio. O ganlyniad i Bolisi Diogelu Data’r Coleg, ni fydd y Coleg yn trafod eich cais gydag unrhyw berson arall heblaw chi yn unig (yr ymgeisydd) heb eich caniatâd.
Oes gennych chi gwestiwn neu a oes angen cymorth arnoch i lenwi’r ffurflen?
Cysylltwch â’n Tîm Cyllid Myfyrwyr drwy StudentFinanceTeam@cavc.ac.uk
Os yw incwm eich aelwyd yn llai na £18,370, gallech fod yn gymwys i wneud cais am y cymorth ariannol canlynol.
Grant ar gyfer myfyrwyr 19 oed a hŷn sy’n astudio cwrs Addysg Bellach yn y Coleg ac sydd ag incwm aelwyd llai na £18,370 yw Grant Dysgu Llywodraeth Cymru. Os ydych yn astudio yn llawn amser, gallech dderbyn taliad hyd at £1,500 y flwyddyn neu, os ydych yn astudio yn rhan amser, gallech dderbyn hyd at £750 y flwyddyn.
I weld y meini prawf cymhwystra llawn, ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru yma
Angen cymorth i lenwi'r ffurflen?
Cysylltwch â’n Tîm Cyllid Myfyrwyr drwy StudentFinanceTeam@cavc.ac.uk
Gallwch hefyd wneud cais am gymorth gyda chostau eraill drwy Gronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF) y Coleg. Gall y gronfa hon, sy’n cael ei darparu i’r coleg gan Lywodraeth Cymru, dalu costau gan gynnwys:
Cronfa | Cymhwystra ar gyfer myfyrwyr 19 oed a hŷn |
Prydau bwyd am ddim yn y coleg | Dyfernir mewn amgylchiadau eithriadol yn unig i ddysgwyr 19 oed a hŷn |
Ffi tocyn teithio | 19 oed a hŷn, sy’n gymwys am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ac yn byw 3 milltir neu fwy o’r campws astudio |
Cit/Offer | 19 oed neu hŷn, sy’n gymwys ar gyfer Lwfans Cynhaliaeth Addysg ac offer cit cymeradwy neu ffi arall sydd angen ei thalu ar gyfer y cwrs |
Gofal Plant | Incwm aelwyd llai na £25,000. Darperir cyllid ar gyfer un plentyn yn unig hyd at swm penodol. |
Gwneud cais am gymorth ariannol
Os ydych chi’n gwneud cais am docyn teithio, cwblhewch adran 1 a 2. Os nad ydych chi’n gwneud cais am docyn teithio, dim ond am gymorth gyda chostau eraill fel cit neu ofal plant, cwblhewch adran 2. Dim ond unwaith y bydd angen ichi wneud cais, hyd yn oed os ydych chi’n ceisio cymorth gyda mwy nag un gost.
Gwnewch gais heddiw am Gymorth Ariannol ar gyfer costau eraill
Noder: mae’r holl gymorth ariannol a gynigir yn dibynnu ar y cyllid coleg sydd ar gael a gall y cyllid sydd ar gael newid. Dyfarniadau dewisol yw'r Dyfarniadau Ariannol Wrth Gefn, nid hawl. Mae cronfeydd yn gyfyngedig ac nid yw cyflwyno cais yn gwarantu dyfarnu cyllid. Nid yw ceisiadau am Gronfeydd Ariannol Wrth Gefn yn gwarantu dyfarnu cyllid - mae ceisiadau’n cymryd hyd at 4 wythnos i gael eu hasesu ac ni ellir gwarantu cymorth tan ichi dderbyn cadarnhad ysgrifenedig. Dyfernir cyllid i ddysgwyr cymwys ar sail y cyntaf i’r felin.
Mae’r coleg wedi cofrestru dan y Ddeddf Diogelu Data. Dim ond at y dibenion yng nghofnod cofrestru’r Coleg dan y Ddeddf y bydd data personol yn cael ei gasglu a’i ddefnyddio. O ganlyniad i Bolisi Diogelu Data’r Coleg, ni fydd y Coleg yn trafod eich cais gydag unrhyw berson arall heblaw chi yn unig (yr ymgeisydd) heb eich caniatâd.
Oes gennych chi gwestiwn neu a oes angen cymorth arnoch i lenwi’r ffurflen?
Cysylltwch â’n Tîm Cyllid Myfyrwyr drwy StudentFinanceTeam@cavc.ac.uk
Efallai y bydd dysgwyr mewn caledi ariannol yn gallu cael cymorth gan asiantaethau neu sefydliadau allanol eraill. Cliciwch ar y dolenni isod am fwy o wybodaeth:
Efallai y bydd dysgwyr mewn caledi ariannol yn gallu cael cymorth gan asiantaethau neu sefydliadau allanol eraill. Cliciwch ar y dolenni isod am fwy o wybodaeth:
Ymddiriedolaeth y Brenin - Gall Gwobrau Datblygu Ymddiriedolaeth y Tywysog ddarparu cymorth gyda ffioedd cyrsiau, yn ogystal â chymorth i brynu unrhyw offer neu wisg hanfodol y gallai fod ei hangen arnoch ar gyfer eich cwrs. CLICIWCH YMA i fynd i'w tudalen gyswllt a gwneud ymholiad heddiw.
Turn2us - https://www.turn2us.org.uk/ - elusen genedlaethol sy'n rhoi cymorth ymarferol i bobl sy'n cael trafferthion ariannol
Gwefan y Llywodraeth - https://llyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-daf - Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn darparu dau fath o grant nad oes angen i chi eu had-dalu.
Budd-dal Plant – https://www.gov.uk/child-benefit - mae dysgwyr amser llawn hyd at 20 oed yn dal yn gymwys i gael Budd-dal Plant, bydd angen prawf o statws myfyriwr a gellir gofyn amdano drwy lenwi'r ffurflen hon.
Tîm Lles Coleg Caerdydd a’r Fro – os oes angen unrhyw gymorth arnoch ar wahân i'r hyn a amlinellir uchod, gallwch gysylltu â Thîm Lles y coleg; gallant roi gwybod i chi am unrhyw asiantaethau allanol a allai eich helpu, yn ogystal â darparu cymorth emosiynol tymor byr a chymorth ymarferol fel talebau banc bwyd neu gardiau crafu teithio – gallwch gysylltu â’r tîm drwy e-bostio learnerfeelsafeteam@cavc.ac.uk.
Family Action - Gyda Family Action, gall myfyrwyr sydd ar incwm isel gael grantiau o hyd at £300 i gyflawni eu hamcanion.
Mae grantiau ar gael ar gyfer gliniaduron, ffonau clyfar, teithio i’r coleg a’r llyfrau a'r offer sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich cwrs.
Gallech fod yn gymwys i wneud cais am grant os ydych:
yn derbyn budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd NEU yn ddibynnol ar rieni/gofalwyr sy’n derbyn budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd NEU yn geisiwr lloches gyda Cherdyn Cofrestru Cais (ARC) AC yn astudio ar gwrs hyd at a chan gynnwys Lefel 3 yn Lloegr NEU hyd at a chan gynnwys lefel 6 yn yr Alban. - Family Action: Yn cefnogi teuluoedd ym mhob oedran a cham o’u bywyd
Dysgu teuluol – Grant Hanfodion Ysgol (Grant Datblygu Disgyblion yn flaenorol) - Mae'r Grant Hanfodion Ysgol ar gael i helpu teuluoedd ar incwm isel, sydd â phlant sy’n mynychu ysgol gynradd neu uwchradd a gynhelir.
Gallwch ddefnyddio’r grant i brynu pethau fel:
gwisg ysgol, cit chwaraeon, offer ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, fel bagiau ysgol chwaraeon cymunedol, ac offer ysgrifennu
Ni allwch ddefnyddio’r grant hwn i brynu offer TG. - https://www.cardiff.gov.uk/ENG/resident/Schools-and-learning/Financial-support/School-Essentials-Grant/Pages
Cyllid Blynyddoedd Cynnar - Mae Cronfa Pobl Ifanc Caerdydd ar gael i helpu pobl ifanc i barhau â’u haddysg, neu i’w cynorthwyo i ddechrau mewn proffesiwn, crefft neu alwedigaeth.
Gallwch wneud cais am Gronfa Pobl Ifanc Caerdydd a Bwrsariaeth Craddock Wells.
Ni dderbynnir unrhyw geisiadau pellach ar ôl dyrannu’r holl gyllid sydd ar gael mewn blwyddyn ariannol benodol.
https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Y-blynyddoedd-cynnar-a-gofal-plant/Cyllid-y-Blynyddoedd-Cynnar/Pages/Early-Years-Funding