Yn rhan o weledigaeth y coleg i ddarparu amgylcheddau addysgu a dysgu blaengar ar Mae buddsoddiad gwerth £119m Coleg Caerdydd a'r Fro yn nyfodol sgiliau Bro Morgannwg, gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg a Llywodraeth Cymru, ar droed.
Bydd y prosiect yma’n arwain at ddau gampws newydd yn cael eu hadeiladu yn y Fro: campws coleg cymunedol yng nghalon Glannau'r Barri, a Chanolfan Dechnoleg Uwch arloesol ger Maes Awyr Caerdydd. Mae’r ddau safle’n cael eu clirio a’u paratoi yr haf yma yn barod ar gyfer dechrau ar y gwaith adeiladu, gyda'r ddau gampws i fod i agor ym mis Awst 2027.
Bydd y Ganolfan Dechnoleg Uwch 13,000 metr sgwâr yn darparu hyfforddiant sydd â’i ffocws ar ddiwallu anghenion sgiliau cyflogwyr, prentisiaid a’r rhai sy’n gweithio mewn technolegau uwch a chefnogi pontio Sero Net Cymru.
Bydd Campws Glannau’r Barri, sy’n 6,000 metr sgwâr, yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleusterau a chyrsiau i bobl ifanc ac oedolion ddatblygu sgiliau newydd neu wneud cynnydd yn eu gyrfaoedd.
Fel y prosiect Addysg Bellach Sero Net cyntaf yng Nghymru, bydd y ddau gampws yn dod yn amgylcheddau dysgu gwirioneddol gynaliadwy lle bydd miloedd yn dysgu bob blwyddyn a bydd yn sicrhau manteision datblygu cymunedol ac economaidd sylweddol i’r Fro.
Mae’r prosiect yn cael ei gyflawni drwy Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.
Newyddion