Mae cynlluniau Coleg Caerdydd a'r Fro ar gyfer Canolfan Technoleg Uwch o'r radd flaenaf ym Maes Awyr Caerdydd wedi cael caniatâd i fynd yn eu blaen.
Cafodd cais cynllunio'r Coleg ar gyfer y Ganolfan eu cymeradwyo gan Gyngor Bro Morgannwg. Yn dilyn ymlaen o gymeradwyaeth y Cyngor o gynlluniau ar gyfer campws CCAF newydd ar Lannau'r Barri, mae'r newyddion yn cynrychioli cam sylweddol ymlaen yng nghynlluniau'r Coleg ar gyfer buddsoddiad o £100m mewn addysg a hyfforddiant yn y Fro, sy'n cael ei ddarparu drwy Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Wedi'i lleoli ger Canolfan Ryngwladol ar gyfer Hyfforddiant Awyrofod (ICAT) adnabyddus CCAF ym Maes Awyr Caerdydd, a fydd yn parhau i fod yn weithredol, bydd y Ganolfan Technoleg Uwch arfaethedig 13,000 metr sgwâr yn gallu cynnig lle i bron i 2,000 o ddysgwyr a thros 100 o staff.
Bydd y cyrsiau ar y campws hwn yn canolbwyntio ar gefnogi datblygiad economaidd a bodloni anghenion sgiliau cyflogwyr mewn technolegau uwch a sgiliau gwyrdd - ar gyfer y technolegau adnewyddadwy newydd a'r sgiliau ôl-osod sydd eu hangen i gyrraedd targedau Carbon Sero Net.
Bydd y campws yn cynnwys cyfleuster gweithgynhyrchu deunyddiau cyfansawdd uwch, labordai roboteg a mecatroneg diweddaraf a "thŷ sgiliau gwyrdd". Bydd myfyrwyr yn defnyddio Realiti Rhithwir a Deallusrwydd Artiffisial a bydd ganddynt fynediad at brototeipio cyflym, argraffwyr metel 3D a dronau ymreolaethol i gefnogi eu hastudiaethau. Bydd myfyrwyr Modurol yn gweithio gyda cherbydau trydan a hydrogen.
Yn ogystal â chyrsiau llawn amser i roi llwybr mynediad i'r diwydiannau hyn i fyfyrwyr, bydd prentisiaethau a chyrsiau rhan amser i'w cael hefyd yn darparu cyflogwyr a'u gweithwyr gyda'r cyfle i uwchsgilio eu gweithlu. Bydd cyrsiau Addysg Uwch hefyd yn cael eu cynnig, gan gynnwys cyrsiau sy'n cael eu rhedeg ar y cyd â phartneriaid y brifysgol.
Yn ogystal â darparu sgiliau newydd i'r gweithlu presennol, dylai ansawdd a natur hynod dechnolegol y campws annog pobl ifanc i roi eu bryd ar yrfa mewn technolegau uwch.
Y nod yw mai hwn fydd y campws Addysg Bellach Carbon Sero Net cyntaf ar waith yng Nghymru, a fydd yn cynnig amgylchedd cwbl gynaliadwy, gan ddod â buddion cymunedol sylweddol ac yn ased hirdymor yn natblygiad y Parth Menter.
Yn amodol ar Lywodraeth Cymru yn cymeradwyo Achos Busnes Llawn y Coleg, disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau ar safle'r Ganolfan Technoleg Uwch yn 2025 ac i'r campws i agor yn 2027.
Meddai Prif Weithredwr Grŵp Coleg Caerdydd a'r Fro Mike James: "Rydym yn hynod falch bod Bro Morgannwg wedi cymeradwyo'r cam nesaf hwn yn ein buddsoddiad mewn addysg a hyfforddiant yn y rhanbarth.
Pleser o'r mwyaf yw cael dweud ein bod yn cyflawni ar ein hymrwymiad i ddarparu amgylcheddau addysgu a dysgu o'r radd flaenaf ar gyfer dysgwyr a'r gymuned ym Mro Morgannwg. Bydd y Ganolfan Technoleg Uwch hon hefyd yn sicrhau darpariaeth ar gyfer anghenion cyflogwyr ar hyd a lled y Fro a'r Brifddinas Ranbarth ehangach, nawr ac yn y dyfodol.
Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Bro Morgannwg a Chwmni Partneriaeth Addysg Cymru i sicrhau llwyddiant diamheuol y prosiect hwn."
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae hwn yn newyddion gwych i Fro Morgannwg. Bydd y Ganolfan Technoleg Uwch ym Maes Awyr Caerdydd yn sefydlu ail ganolfan o ragoriaeth ryngwladol yma yn y Fro.
Mae'r ganolfan awyrofod y bydd yn eistedd ochr yn ochr â hi eisoes wedi gwneud llawer iawn i ysgogi datblygiad economaidd yn y Fro. Bydd arloesi mwy fyth o dechnolegau yma yn y Fro yn sicr o ychwanegu at hyn yn ogystal â rhoi llwybr a fydd yn tywys pobl leol i swyddi sgiliau uwch."
Bydd y ddau gampws newydd yn disodli campws presennol CCAF yn y Barri ar Heol Colcot.