Canolfan Technoleg Uwch

Bydd y Ganolfan Technoleg Uwch newydd, sydd wedi'i lleoli ochr yn ochr â Chanolfan Ryngwladol Hyfforddiant Awyrofod (ICAT) CCAF ym Maes Awyr Caerdydd, yn lle i bobl ddysgu'r sgiliau y mae cyflogwyr lleol yn chwilio amdanynt mewn gwirionedd — nawr ac yn y dyfodol. Gyda lle i bron i 2,000 o ddysgwyr, bydd y campws yn cefnogi pobl ar bob cam o'u gyrfa, o'r rhai sydd newydd ddechrau i'r rhai sy'n edrych i ailhyfforddi neu symud i fyny. 

Bydd cyrsiau'n canolbwyntio ar dechnolegau uwch a sgiliau gwyrdd, gan helpu i gefnogi swyddi, busnesau a thwf economaidd ar draws y rhanbarth. Bydd dysgu yma yn ymarferol ac yn weithredol, wedi'i siapio o amgylch yr hyn sydd ei angen ar gyflogwyr mewn gwirionedd, gan ddefnyddio offer a chyfleusterau o safon y diwydiant sy'n adlewyrchu amgylcheddau gwaith go iawn. 

Bydd y campws yn cynnwys mannau arbenigol fel cyfleusterau gweithgynhyrchu cyfansoddion uwch, labordai roboteg a mecatroneg, a thŷ sgiliau gwyrdd pwrpasol. Bydd dysgwyr hefyd yn defnyddio offer fel Realiti Rhithwir ac AI, ochr yn ochr ag offer prototeipio cyflym, argraffwyr metel 3D a dronau ymreolaethol, gan roi profiad iddynt gyda'r technolegau sy'n siapio diwydiannau modern. 

Ochr yn ochr â chyrsiau amser llawn, bydd y ganolfan yn cynnig prentisiaethau a dysgu rhan-amser, gan ei gwneud hi'n haws i bobl sydd eisoes mewn gwaith - a'u cyflogwyr - adeiladu sgiliau newydd. Bydd cyrsiau Addysg Uwch hefyd ar gael, gan gynnwys rhaglenni a gyflwynir mewn partneriaeth â phrifysgolion. 

Cynnydd Diweddaraf

Rydym yn rhannu diweddariadau rheolaidd ar adeiladu ein dau gampws newydd Coleg Caerdydd a’r Fro ym Mro Morgannwg. Dewch yn ôl yn fuan i weld y cynnydd diweddaraf, gan gynnwys cerrig milltir allweddol a chlipiau drôn.

Gorffennaf 2026

Trosolwg o’r Prosiect

Mae’r gwaith datblygu’n parhau ar amser yn y Ganolfan Technoleg Uwch, Coleg Caerdydd a’r Fro, gyda cherrig milltir strwythurol sylweddol bellach wedi’u cwblhau a'r pwyslais yn symud tuag at osod systemau a'r manylion terfynol.


Wedi cwblhau

Mae’r prosiect wedi cwblhau gwaith strwythurol sylweddol, gan gynnwys:

  • Yr holl greiddiau concrid rhag-gastiedig wedi’u gosod gyda grisiau i’r prif adeilad
  • Ffrâm ddur wedi’i chodi ar gyfer y prif adeilad a’r cyfleusterau gweithdy
  • Systemau llawr wedi’u cwblhau ar draws holl lefelau'r prif adeilad (decin metel, atgyfnerthu, a llawr concrid cyfansawdd)
  • Llawr gwaelod y neuadd chwaraeon a’r slabiau cysylltiedig
  • Haenau sylfaenol y brif ffordd fynediad yn eu lle
  • Systemau ffasâd strwythurol (pileri SFS) wedi’u gosod ar yr ochrau gogleddol a deheuol


Yn Digwydd ar Hyn o Bryd

Mae'r gwaith bellach yn canolbwyntio ar wasanaethau adeiladu, cwblhau gwaith amlen, a pharatoi mewnol:

  • To ac Amlen: Gwaith gosod system do yn bwrw ymlaen ar draws y prif adeilad a’r ddau weithdy; gwaith gosod ffenestri yn mynd rhagddo ar y ffasâd deheuol
  • Gwasanaethau Adeiladu: Rhigoli ar gyfer gwasanaethau, pibellwaith , systemau draenio, a gosod system ddraenio seiffonig
  • Paratoi Mewnol: Gwaith gosod system wal (SFS) yn parhau ar hyd lefelau 3, 2 a 1; gwaith paratoi slabiau yn mynd rhagddo yn y gweithdai a’r prif adeilad
  • Sicrhau Ansawdd: Gwaith paentio adferol ar yr haenau chwyddedig a'r gorffeniadau preimio gwaith dur

Cymerwch olwg

Cipolwg o'r Ganolfan Dechnoleg Uwch
Cynnydd Diweddaraf