Cynlluniau wedi'u cymeradwyo ar gyfer Campws Glannau'r Barri, Coleg Caerdydd a'r Fro

9 Medi 2024

Mae cynlluniau Coleg Caerdydd a'r Fro ar gyfer campws o’r radd flaenaf yng Nglannau'r Barri wedi cael sêl bendith.

Cymeradwyodd pwyllgor cynllunio Cyngor Bro Morgannwg gynlluniau CCAF am gampws 6,000 medr sgwâr ger Heol Hood a fydd yn darparu ar gyfer 1,000 o fyfyrwyr rhan amser a bron i 80 o staff, gyda'r campws yn cynnig cyrsiau i bob oed, drwy gydol yr wythnos, gan gynnwys gyda'r nosau a dyddiau Sadwrn, a hynny gydol y flwyddyn.

Yn ogystal ag ystafelloedd dosbarth, mae'r cynlluniau yn cynnwys unedau gweithredol ar y stryd gyda Salon Gwallt a Harddwch a Bistro/Bwyty a fydd yn agored i'r cyhoedd ac yn cael ei redeg gan fyfyrwyr. Yn ogystal, bydd yna deras gardd awyr agored, ystafelloedd dosbarth ac ystafelloedd TG, ardal bwyta dan do yn yr awyr agored ac iard gyda lawnt a mannau i eistedd.

Bydd dysgwyr y Coleg yn rhan o brosiect i ddylunio celf gyhoeddus a fydd yn cael ei hymgorffori yn strwythur y campws newydd. Fel datblygiad Sero Net amlwg yn Chwarter Arloesi Glannau'r Barri, disgwylir i'r campws newydd ddod yn amgylchedd dysgu gwirioneddol gynaliadwy a fydd yn dod â manteision cymunedol sylweddol ac yn ased hirdymor i ddatblygiad y Chwarter Arloesi.

Ariennir y buddsoddiad hwn gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Yn amodol ar ganiatâd Llywodraeth Cymru i Achos Busnes Llawn y Coleg, disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau ar safle'r Glannau yn y flwyddyn newydd.

Y bwriad yw agor Campws Glannau'r Barri tuag at ddiwedd 2026.

Dywedodd Prif Weithredwr Grŵp Coleg Caerdydd a'r Fro Mike James: "Rydym yn falch bod Bro Morgannwg wedi cymeradwyo'r buddsoddiad hwn mewn addysg a hyfforddiant yn y rhanbarth.

“Pleser o'r mwyaf yw cael dweud ein bod yn cyflawni o ran ein hymrwymiad i ddarparu amgylcheddau addysgu a dysgu o'r safon uchaf ar gyfer dysgwyr a'r gymuned ym Mro Morgannwg. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Bro Morgannwg a Chwmni Partneriaeth Addysg Cymru i sicrhau llwyddiant diamheuol y prosiect hwn."

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae hwn yn newyddion gwych i Fro Morgannwg. Fe fydd campws y Glannau arfaethedig, gwerth miliynau o bunnoedd, yn ddatblygiad tirnod i'r dref. Fe fydd yn dod ag adnoddau addysg modern, o’r radd flaenaf i ddysgwyr ledled y Fro.

"Rwy'n hynod falch o'n cydweithio parhaus fel partneriaid sector cyhoeddus gyda Choleg Caerdydd a'r Fro a Llywodraeth Cymru wrth helpu'r coleg i wneud cynnydd wrth ddarparu'r cynllun addysgol newydd cyffroes hwn.

"Bydd y campws newydd yn ailddatblygu safle tir llwyd ger canol y dref a chynnig cyfleoedd addysg newydd a hyfforddiant galwedigaethol mawr eu hangen mewn adeilad sy'n amgylcheddol gynaliadwy.

"Unwaith y bydd wedi ei gwblhau, bydd y campws newydd yn enghraifft wych o sut y gall addysg fod yn llywiwr sylweddol ar gyfer adfywio lleol a chreu lleoedd."

Mae Campws y Glannau CCAF yn rhan o gynllun ehangach gwerth £100m sy'n disodli Campws presennol y Barri ar Heol Colcot, sy'n dangos ei oed. Gobeithir y bydd y cais cynllunio ar gyfer y Campws Technoleg Uwch 13,000 medr sgwâr ar safle ger Maes Awyr Caerdydd yn cael ei ystyried gan Gyngor Bro Morgannwg yn ddiweddarach y mis hwn.