Diploma Uwch AAT mewn Cyfrifeg (Ar-lein ac Ar y Campws)

L3 Lefel 3
Rhan Amser
6 Medi 2024 — 11 Gorffennaf 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynglŷn â'r cwrs

Mae'r cwrs AAT (Association of Accounting Technicians) lefel uwch hwn yn gymhwyster cyfrifeg lefel ganolig, sy'n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n awyddus i ddatblygu'r wybodaeth sydd ganddynt eisoes ym maes cyfrifeg.


Mae'r cwrs hyblyg hwn wedi'i gyflwyno mewn partneriaeth â Mindful Education, ac yn cyfuno dysgu ar-lein gyda gwersi wyneb yn wyneb yn y dosbarth.


Mae'r cwrs Lefel 3 hwn yn rhan o fenter y National Skills Fund ac mae'n cael ei gyllido'n llawn ar gyfer dysgwyr cymwys. Fel arall, gallwch wneud cais am fenthyciad dysgwr uwch i dalu cost astudio'r cwrs hwn. Gofynnwch i aelod o staff y coleg am fwy o wybodaeth.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Beth fyddaf yn ei ddysgu?
Mae'r cwrs yn mynd i'r afael ag ystod o dasgau cyfrifeg cymhleth. Byddwch yn dysgu ac yn meistroli prosesau ariannol, gan gynnwys egwyddorion a chysyniadau cyfrifeg, paratoi cysyniadau ariannol, cyfrifyddu rheoli, prosesau treth ac ymwybyddiaeth fusnes. 
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, byddwch yn cael Diploma AAT Lefel 3 mewn Cyfrifeg. Mae'r cymhwyster AAT (Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu) hwn, a gydnabyddir yn rhyngwladol, yn galluogi'r rhai sy'n gweithio ym maes cyfrifeg neu sy'n awyddus i ddilyn gyrfa yn y maes i ennill gwybodaeth, profiad ymarferol a'r ardystiad hollbwysig sy'n aml yn ofynnol gan gyflogwyr.


Unedau Astudio
Mae'r cwrs Lefel 3 hwn yn ymdrin ag ystod o feysydd allweddol, gan gynnwys: 


Cyfrifyddu Ariannol: Paratoi Datganiadau Ariannol 
Technegau Cyfrifeg Rheoli
Prosesau Treth ar gyfer Busnesau
Ymwybyddiaeth Busnes
Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau cyfathrebu busnes a dysgu gydol oes, ac yn cymhwyso'r hyn rydych yn ei ddysgu ar y cwrs i'r cyd-destun diwydiant ehangach.


Dull Astudio - Ar-lein ac Ar y Campws
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda Mindful Education i gyflwyno'r cwrs hwn drwy gyfrwng ein model hyblyg Ar-lein ac Ar y Campws. 
Ar-lein, byddwch yn astudio gwersi fideo sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r rhain ar gael ar alw, a gallwch eu gwylio ar eich ffôn, tabled neu gyfrifiadur - sy'n golygu y gallwch ddewis sut, pryd a ble rydych am astudio. Mae gwersi'n para tua 45 munud ac yn cynnwys animeiddiadau a graffeg symudol i ddod â chysyniadau yn fyw. Mae cwestiynau ymarfer, deunyddiau gwersi y gellir eu lawrlwytho ac astudiaethau achos rhyngweithiol yn helpu i gyfoethogi'r profiad dysgu ymhellach a dylai dysgwyr ddisgwyl treulio tua 5-6 awr yr wythnos yn astudio'n annibynnol ar-lein. 
Ar y campws, byddwch yn cael y fantais o gael dosbarthiadau rheolaidd gyda thiwtor coleg - heb orfod ymrwymo i fynychu sawl noswaith bob wythnos. Bydd eich tiwtor yn edrych dros yr hyn rydych wedi'i ddysgu yn ystod eich gwersi ar-lein a bydd ar gael i ddarparu arweiniad ynghylch cynnydd ac asesu. Bydd trafod yn rheolaidd gyda chyd-fyfyrwyr yn helpu i atgyfnerthu pwyntiau allweddol a hefyd yn darparu'r gefnogaeth a'r cymhelliant ychwanegol a geir wrth fod yn rhan o grŵp. 


Sut fyddaf yn cael fy asesu?
Asesir y cwrs hwn drwy arholiadau ar y cyfrifiadur ar gyfer bob uned.


Cyfleoedd gyrfaol
Bydd y sgiliau a'r wybodaeth y byddwch yn eu meithrin drwy'r cymhwyster hwn yn eich gwneud yn gymwys ar gyfer swyddi megis Swyddog Cyllid, Cyfrifydd Cynorthwyol a Cheidwad Cyfrifon. Byddwch hefyd yn gymwys i gael statws Ceidwad Cyfrifon yr AAT (AATQB), sy'n rhoi'r dewis ichi i weithio fel ceidwad cyfrifon llawrydd.


Gwybodaeth ychwanegol
Mae'r cwrs Lefel 3 hwn yn rhan o fenter y National Skills Fund ac mae'n cael ei gyllido'n llawn ar gyfer dysgwyr cymwys. Fel arall, gallwch wneud cais am fenthyciad dysgwr uwch i dalu cost astudio'r cwrs hwn. Gofynnwch i aelod o staff y coleg am fwy o wybodaeth.

*Ffioedd cofrestru dysgwyr i’w talu’n uniongyrchol i’r AAT, yn ychwanegol at y Ffioedd Cwrs. Mae’r rhain yn amodol ar newid gan yr AAT ym mis Awst


Ffioedd Cofrestru 2023/24 

Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifyddu = £228

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Arholiad : £270.00

Ffi Cwrs: £950.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Gofynion mynediad

Mae'n rhaid ichi feddu ar wybodaeth gadarn o egwyddorion cadw cyfrifon er mwyn astudio rhaglen Lefel 3 yr AAT. Os oes gennych Dystysgrif Sylfaen Lefel 2 yr AAT mewn Cyfrifeg, bydd hynny o fantais, ond nid yw'n hanfodol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr dan 18 oed
  • Mae cymorth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu ac anableddau
  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn ymrwymedig i gynhwysedd ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hyrwyddo cyfle cyfartal ac i drin pawb yn deg a chyda pharch
  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
  • Mae'r holl gyrsiau'n gywir ar adeg eu lanlwytho neu eu hargraffu
  • Ni allwn redeg cyrsiau heb nifer digonol o fyfyrwyr
  • Sylwer: os dewiswch dri neu fwy o ddewisiadau cwrs, yna fe allech chi gael eich cyfeirio at apwyntiad gyrfaoedd yn gyntaf. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch neu TGAU.
Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

6 Medi 2024

Dyddiad gorffen

11 Gorffennaf 2025

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

BSCC3P92
L3

Cymhwyster

AAT Level 3 Diploma in Accounting

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Pan ddes i'n ôl i addysg roeddwn i'n gwybod mai dyma'r lle i fynd. Mae Moodle yn wych ac mae llawer o ddeunydd arno, mae tiwtoriaid yn ymateb yn gyflym i unrhyw gwestiynau sydd gennym.

Breeze Thompson
Myfyriwr Cyfrifo AAT

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE