Tystysgrif AAT mewn Cyfrifeg (Ar-lein ac Ar y Campws)

L2 Lefel 2
Rhan Amser
5 Medi 2024 — 12 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynglŷn â'r cwrs

Mae'r cwrs Sylfaen AAT (Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu) hwn yn gymhwyster lefel mynediad, sy'n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n chwilio am gyflwyniad i hanfodion a sgiliau sylfaenol cyfrifeg.

Mae'r cwrs hyblyg hwn wedi'i gyflwyno mewn partneriaeth â Mindful Education, ac yn cyfuno dysgu ar-lein gyda gwersi wyneb yn wyneb yn y dosbarth.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Beth fyddaf yn ei ddysgu?

Bydd y cymhwyster hwn yn eich paratoi ar gyfer rolau cyfrifeg iau a lefel mynediad. Mae'n darparu sylfaen gadarn mewn gweinyddu cyllid - gan gwmpasu meysydd fel cadw cyfrifon cofnod dwbl i egwyddorion costio sylfaenol a defnyddio meddalwedd cyfrifo.

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn Tystysgrif Sylfaen AAT Lefel 2 mewn Cyfrifeg. Mae'r cymhwyster AAT (Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu) a gydnabyddir yn rhyngwladol yn galluogi'r rhai sy'n gweithio ym maes cyfrifeg neu'r rhai sy'n dymuno dilyn gyrfa ym maes cyfrifeg i ennill gwybodaeth, profiad ymarferol a'r ardystiad hollbwysig y mae cyflogwyr yn aml yn gofyn amdano.

Unedau Astudio

Mae’r cwrs Lefel 2 yn cwmpasu ystod o feysydd allweddol, gan gynnwys:

  • Cyflwyniad i Gadw Cyfrifon
  • Egwyddorion Cadw Cyfrifon
  • Egwyddorion Costio
  • Yr Amgylchedd Busnes

Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau cyfathrebu busnes a dysgu gydol oes, gan gymhwyso'r hyn a ddysgwch ar y cwrs i gyd-destun ehangach y diwydiant.

Dull Astudio - Ar-lein ac Ar y Campws

Rydym wedi partneru â Mindful Education i gyflwyno’r cwrs hwn trwy ein model hyblyg Ar-lein ac Ar y Campws.

Ar-lein, byddwch yn astudio gwersi sydd wedi ennill gwobrau, sydd ar gael ar alw, a gellir eu gwylio ar eich ffôn, tabled neu gyfrifiadur - sy'n golygu y gallwch ddewis sut, pryd a ble rydych chi am astudio. Mae gwersi yn para tua 45 munud gydag animeiddiadau a graffeg symud i gyd-fynd i ddod â chysyniadau yn fyw. Mae cwestiynau ymarfer, deunyddiau gwersi y gellir eu lawrlwytho ac astudiaethau achos rhyngweithiol yn helpu i wella'r profiad dysgu ymhellach a dylai dysgwyr ddisgwyl treulio tua 4-5 awr yn astudio'n annibynnol ar-lein bob wythnos.

Ar y campws, byddwch yn elwa o ddosbarthiadau rheolaidd gyda thiwtor coleg - heb orfod ymrwymo i fynychu sawl noswaith bob wythnos. Bydd eich tiwtor yn adolygu’r hyn rydych wedi’i ddysgu yn ystod eich gwersi ar-lein a bydd wrth law i roi arweiniad ar gynnydd ac asesu. Bydd trafodaethau cyson gyda chyd-fyfyrwyr yn helpu i atgyfnerthu pwyntiau allweddol tra hefyd yn darparu'r gefnogaeth a'r cymhelliant ychwanegol a ddaw o fod yn rhan o grŵp.

Sut byddaf yn cael fy asesu?

Bydd y cwrs hwn yn cael ei asesu drwy arholiadau ar gyfrifiadur ac asesiad synoptig, sy'n defnyddio ac yn asesu gwybodaeth a dealltwriaeth o bob rhan o'r cymhwyster.

*Ffioedd cofrestru dysgwyr i’w talu’n uniongyrchol i’r AAT, yn ychwanegol at y Ffioedd Cwrs. Mae’r rhain yn amodol ar newid gan yr AAT ym mis Awst


Ffioedd Cofrestru 2023/24 

Lefel 2 Tystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifyddu = £175

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £775.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Ffi Arholiad : £270.00

Gofynion mynediad

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr dan 18 oed
  • Mae cymorth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu ac anableddau
  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn ymrwymedig i gynhwysedd ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hyrwyddo cyfle cyfartal ac i drin pawb yn deg a chyda pharch
  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
  • Mae'r holl gyrsiau'n gywir ar adeg eu lanlwytho neu eu hargraffu
  • Ni allwn redeg cyrsiau heb nifer digonol o fyfyrwyr
  • Sylwer: os dewiswch dri neu fwy o ddewisiadau cwrs, yna fe allech chi gael eich cyfeirio at apwyntiad gyrfaoedd yn gyntaf. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch neu TGAU.
Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

5 Medi 2024

Dyddiad gorffen

12 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

BSCC2P92
L2

Cymhwyster

AAT Level 2 Certificate in Accounting

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Pan ddes i'n ôl i addysg roeddwn i'n gwybod mai dyma'r lle i fynd. Mae Moodle yn wych ac mae llawer o ddeunydd arno, mae tiwtoriaid yn ymateb yn gyflym i unrhyw gwestiynau sydd gennym.

Breeze Thompson
Myfyriwr Cyfrifo AAT

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i Gymwysterau Cyfrifyddu AAT ar lefelau uwch (Lefel 3 ac yna ymlaen i Lefel 4). O dan fenter y Gronfa Sgiliau Genedlaethol, gallwch fod yn gymwys ar gyfer cwrs Lefel 3 wedi’i ariannu’n llawn. Fel arall, gallwch wneud cais am fenthyciad i ddysgwyr addysg bellach i dalu cost eich astudiaeth Lefel 3. Gofynnwch i aelod o staff y coleg am ragor o wybodaeth.

Cyfleoedd gyrfa

Bydd y sgiliau a'r wybodaeth y byddwch yn eu hennill trwy gydol y cymhwyster hwn yn eich cymhwyso ar gyfer rolau sy'n cynnwys Cynorthwyydd Cyfrifon, Cynorthwyydd Cyllid, Cynorthwyydd Rheoli Credyd neu Glerc Llyfr Prynu.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE