Mae'r cwrs AAT (Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu) proffesiynol hwn yn gymhwyster cyfrifeg lefel uwch. Os ydych yn cwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus ac yn ateb gofynion profiad gwaith y Gymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu, gallwch wneud cais am aelodaeth AAT llawn a llwyddo i gyrraedd statws Cyfrifydd AAT proffesiynol.
Mae'r cwrs hyblyg hwn wedi'i gyflwyno mewn partneriaeth â Mindful Education, ac yn cyfuno dysgu ar-lein gyda gwersi wyneb yn wyneb yn y dosbarth.
Yn ystod y cymhwyster hwn byddwch yn mynd i'r afael â thasgau cyfrifyddu lefel uwch gan gynnwys drafftio cyfriflenni, rheoli cyllidebau a gwerthuso perfformiad ariannol, ynghyd ag amrediad o unedau arbenigol opsiynol.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, byddwch yn cael Uwch Ddiploma AAT Lefel 4 mewn Cyfrifeg. Mae'r cymhwyster AAT (Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu) hwn yn galluogi'r rhai sy'n gweithio ym maes cyfrifeg neu sy'n awyddus i fynd i faes cyfrifeg fel gyrfa i ennill gwybodaeth, profiad ymarferol a'r ardystiad hollbwysig sy'n aml yn ofynnol gan gyflogwyr.
Mae'r cwrs Lefel 4 hwn yn ymdrin ag amrediad o feysydd allweddol, gan gynnwys:
Caiff yr unedau craidd hyn eu hasesu ar lefel uned. Yn ychwanegol, bydd asesiad synoptig yn gofyn i fyfyrwyr gymhwyso gwybodaeth a sgiliau a enillwyd ar draws y cymhwyster mewn modd integredig, o fewn cyd-destun y gweithle.
Unedau opsiynol - dewiswch ddau o'r canlynol (yn amodol ar argaeledd):
Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau cyfathrebu a dysgu gydol oes, ac yn cymhwyso'r hyn rydych yn ei ddysgu ar y cwrs i'r cyd-destun diwydiant ehangach.
Rydym wedi creu partneriaeth gyda Mindful Education i gyflwyno'r cwrs drwy gyfrwng ein model Ar-lein ac Ar y Campws.
Mae darlithoedd fideo ar-lein ar gael ar gais, ac i'w gwylio o'ch ffôn, tabled neu gyfrifiadur, sy'n golygu y gallwch ddewis sut, pryd a ble rydych am astudio. Mae gwersi'n para tua 60 munud ac yn dod ynghyd ag animeiddiadau â graffeg symudiad er mwyn dod â chysyniadau i'r byw. Ymarferion, astudiaethau achos rhyngweithiol ac offer creadigol er mwyn helpu ehangu'r profiad dysgu ymhellach.
Ar y campws, byddwch yn manteisio ar ddosbarthiadau coleg rheolaidd - ac ni fydd angen i chi ymrwymo i fynychu nosweithiau niferus bob wythnos. Bydd tiwtoriaid profiadol yn trafod ac yn atgyfnerthu'r hyn rydych wedi'i ddysgu'n ystod eich astudiaethau ar-lein a byddant ar gael i ddarparu arweiniad ynghylch datblygiad ac asesu. Bydd trafodaethau a dadlau gyda chyd-fyfyrwyr o gymorth i chi gymhwyso theorïau i sefyllfaoedd rydych yn eu hwynebu yn y gweithle.
Asesir y cwrs hwn drwy arholiadau cyfrifiadurol ac asesiad synoptig, sy'n defnyddio ac yn asesu gwybodaeth a dealltwriaeth ar draws y cymhwyster.
Bydd y sgiliau cyfrifyddu a ddatblygir gennych wrth astudio'r cymhwyster hwn yn eich galluogi i chwilio am gyflogaeth yn hyderus, a/neu i symud ymlaen i astudio cyfrifeg siartredig.
*Ffioedd cofrestru dysgwyr i’w talu’n uniongyrchol i’r AAT, yn ychwanegol at y Ffioedd Cwrs. Mae’r rhain yn amodol ar newid gan yr AAT ym mis Awst
Ffioedd Cofrestru 2023/24
Diploma Lefel 4 mewn Cyfrifyddu Proffesiynol = £224
Ffi Arholiad : £340.00
Ffi Cofrestru: £45.00
Ffi Cwrs: £1,610.00
Cwblhau AAT Lefel 3 yn llwyddiannus.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.