Paratoi ar gyfer Gwaith, Bywyd a Dysgu
Am Sgiliau Byw’n Annibynnol
Mae ein cyrsiau Sgiliau Byw’n Annibynnol yn eich helpu chi i oresgyn rhwystrau a datblygu sgiliau ar gyfer eich dyfodol. Mae ein cyrsiau yn cefnogi dysgwyr gydag ystod eang o anawsterau/anableddau dysgu ac anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys y rheiny sydd â Chynllun Datblygu Unigol.
Chi sydd wrth wraidd ein holl gyrsiau. Rydym yn llunio cynllun dysgu personol yn seiliedig ar eich anghenion dysgu a’ch nodau ar gyfer y dyfodol. Byddwch yn datblygu sgiliau cyffredinol mewn cyfathrebu, sgiliau byw’n annibynnol, iechyd a llesiant, cyflogadwyedd a’r gymuned o’ch cwmpas, gan ganolbwyntio ar feysydd rydych angen eu datblygu fwyaf.
Eich CAVC
Eich Dyfodol
Yr holl opsiynau Sgiliau Byw’n Annibynnol
Enw’r cwrs |
Lefel
|
Dyddiadau dechrau ar gael
|
Lleoliadau ar gael
|
---|---|---|---|
Ymgysylltu â Newid Interniaethau SEARCH | L1 Llawn Amser | 5 Medi 2022 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Ymgysylltu â Newid Interniaethau SEARCH | L1 Llawn Amser | 5 Medi 2022 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Cyflogadwyedd a Sgiliau Bywyd | EL1 EL2 EL3 Llawn Amser | 5 Medi 2022 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd Campws y Barri |
Tuag at Annibyniaeth | EL1 Llawn Amser | 5 Medi 2022 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd |
Cysylltu â Choleg Caerdydd a'r Fro | EL3 Rhan Amser | 3 Hydref 2022 | Campws y Barri Neuadd Llanrhymni |
Sgiliau ar gyfer Dilyniant yn y Coleg | EL3 Llawn Amser | 5 Medi 2022 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd Campws y Barri |
Sgiliau Gweithio a Byw | EL3 Llawn Amser | 5 Medi 2022 | Neuadd Llanrhymni |