Cyn fyfyriwr yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro Ewan yn ennill Gwobr Inspire!i oedolion sy’n ddysgwyr

27 Hyd 2022

Mae cyn fyfyriwr yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro sydd bellach wedi troi’n gyflogai, Ewan Heppenstall, wedi ennill gwobr Oedolyn Ifanc sy’n Ddysgwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Inspire! ar gyfer oedolion sy'n ddysgwyr.

Cofrestrodd Ewan, sy'n 23 oed ac sydd ag awtistiaeth ysgafn, yn wreiddiol yn CCAF yn 2018 ar raglen Sgiliau Gwaith Lefel Mynediad 2 ac wedyn symudodd ymlaen i Lefel 3. Wedyn cwblhaodd gymhwyster BTEC a oedd yn cwmpasu ystod o feysydd gan gynnwys paratoi a dysgu ar gyfer gweithle, iechyd a diogelwch yn y gwaith, gweithio mewn tîm, cynllunio a chynnal gweithgaredd menter, sut i ymddwyn yn y gwaith, llunio CV a gwneud cais am swyddi.
Nesaf, sicrhaodd Ewan le ar raglen SEARCH Prosiect DFN, y mae’r Coleg yn ei gweithredu mewn partneriaeth â Dow Silicones yn y Barri. Mae Project SEARCH yn fenter a ddechreuodd yn UDA fwy nag 20 mlynedd yn ôl i roi cyfleoedd cyflogaeth i bobl ag anghenion dysgu ychwanegol.

“Roedd rhaid i mi wneud cyfweliad fideo i wneud cais, ac roeddwn i’n un o ddim ond chwech o bobl i gael lle,” meddai Ewan. “Fe wnes i feddwl: 'Fe allai hwn fod yn gam enfawr i mi'. Fe agorodd fy llygaid i – fe wnes i ddysgu mwy am ddefnyddio llawer o wahanol raglenni cyfrifiadurol fel Excel a Word.”

Cafodd Ewan dair interniaeth gyda Dow Silicones, a gyda phob interniaeth fe ddatblygodd a gwneud cynnydd, ac roedd mor uchel ei barch nes iddo gael ei enwebu fel cynrychiolydd cwrs gan ei gyfoedion ym Mhrosiect SEARCH yn ystod ei drydedd interniaeth.

“Roedd yn brofiad diddorol iawn ac yn gipolwg da ar sut beth yw bywyd gwaith,” esboniodd Ewan. “Roeddwn i’n gweithio gyda thîm; roedd pobl yn fy nghefnogi i ac roeddwn i’n eu cefnogi nhw.

“Fe wnes i wir fwynhau darganfod beth roeddwn i eisiau ei wneud. Roeddwn i’n gwybod fy mod i’n dda gyda phobl, ac roeddwn i’n gallu defnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth roeddwn i wedi’u dysgu mewn amgylchedd gwaith go iawn.”

Yn dilyn ei gyfnod yn Dow, cafodd Ewan waith gyda CF10 Retail yn Simply Fresh, yr archfarchnad ar Gampws Canol y Ddinas y Coleg.

“Rydw i bob amser yn awyddus i fwrw iddi a gweithio’n galed,” meddai. “Mae pobl yn fy ngweld i fel ased - rydw i wrth fy modd yn gweithio yno.”

Yn eiriolwr dros gyfleoedd i bobl anabl ymuno â’r gweithle, mae Ewan hefyd yn cyflwyno gweithdai ysgogol i ddysgwyr eraill sydd ar ddechrau eu siwrnai eu hunain.

“Dylai pobl anabl gael eu cynnwys a chael cyfle i brofi eu hunain,” meddai Ewan. “Fe ddylen ni gael ein cynnwys gan fwy o gyflogwyr.

“Gwnewch eich gorau a rhoi cynnig arni. Fe all addysg a hyfforddiant sgiliau agor drysau a rhoi ail gyfle i bawb.

“Mae dysgu wedi newid fy mywyd i. Oni bai fy mod i wedi mynd i’r Coleg neu Brosiect SEARCH, dydw i ddim yn gwybod lle byddwn i nawr.”

Dywedodd Pennaeth Paratoi ar gyfer Bywyd Gwaith a Dysgu Coleg Caerdydd a’r Fro, Wayne Carter: “Mae Ewan yn enghraifft ddisglair o’r siwrnai y mae pobl ifanc yn cychwyn arni. O fod yn unigolyn swil a thawel gyda hyder a sgiliau gwaith cyfyngedig, mae Ewan bellach yn credu ynddo’i hun, rydyn ni wedi ei ymestyn a’i herio ac wedi darparu cyfleoedd y gall ffynnu arnyn nhw, gan ganolbwyntio ar yr hyn y gall ei wneud yn hytrach na’r hyn na all ei wneud. ”

Wedi'u trefnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, mae Gwobrau Inspire! yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion. Maent yn dathlu dysgu a sgiliau ymhlith oedolion, yn dathlu pobl sydd wedi newid eu bywydau drwy addysg.