Mae Tîm Pêl-droed Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS) Coleg Caerdydd a’r Fro wedi ennill Twrnamaint Pêl-droed Ability Counts Colegau Cymru ac fe fydd nawr yn cynrychioli Cymru yn y rowndiau terfynol cenedlaethol.
Ar ôl ennill rowndiau rhagbrofol Ability Counts De Cymru ychydig cyn y Nadolig, wynebodd tîm ILS CCAF enillwyr Gogledd Cymru, Coleg Meirion-Dwyfor, yn rowndiau terfynol Cymru, a gynhaliwyd ar Gampws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd y Coleg. Roedd disgwyl gêm yn llawn tyndra gan fod y ddau dîm wedi ennill eu holl gemau blaenorol.
Dechreuodd CCAF yn gadarn ac roedd 2-0 ar y blaen erbyn hanner amser. Yn ystod ail hanner yr un mor bwerus, gwelwyd y tîm yn cynyddu ei fantais, gan ennill o 4-0 yn y diwedd. Fe fydd yn teithio i Nottingham nawr i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Chwaraeon Cymdeithas y Colegau ym mis Ebrill.
Dywedodd Barrie Jones, Hyfforddwr Tîm Pêl-droed ILS CCAF: “Fe gyfrannodd pob chwaraewr ac mae angen rhoi canmoliaeth arbennig i’r Capten Jac Hayes a sicrhaodd bod yr holl chwaraewyr yn dangos y gwerthoedd sy’n gysylltiedig â bod yn fyfyriwr yn CCAF.
“Fe chwaraewyd Rownd Derfynol yn llawn ysbryd gwych gyda'r ddwy ochr yn dangos sbortsmonaeth drwy gydol y gêm. Bydd y garfan nawr yn edrych ymlaen at fynd i Nottingham ym mis Ebrill a chynrychioli Cymru yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol Prydain.”
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Llongyfarchiadau i’n Tîm Pêl-droed ILS ni – pencampwyr diguro Twrnamaint Pêl-droed Ability Counts! Bydd pawb yn CCAF yn eich cefnogi chi wrth i chi fynd ymlaen i Rowndiau Terfynol y DU nesaf ym mis Ebrill.”