Mae ein cyrsiau Sgiliau Byw yn Annibynnol yn eich helpu i ddatblygu sgiliau ar gyfer eich dyfodol. Rydym yn canolbwyntio ar adeiladu eich sgiliau cyfathrebu, cyflogaeth a byw yn annibynnol. Rydym hefyd yn datblygu eich ymwybyddiaeth o iechyd, lles a’r gymuned leol.
Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?
Mae dysgwyr ar gyrsiau Sgiliau Byw yn Annibynnol yn aml yn symud ymlaen o ysgolion arbenigol a dylent gael IDP (Cynllun Datblygu Unigol) neu ddogfen gyfwerth statudol.
Rydych yn dilyn un o ddau lwybr (Llwybr 2 neu Lwybr 3), sydd y eich cefnogi orau ac yn helpu i chi gyflawni eich nodau. Unwaith i chi ymgeisio, rydych yn cael eich gwahodd i Ddiwrnod Profiad, i gwrdd ag athrawon a dysgwyr newydd eraill. Ar ôl y diwrnod hwnnw, byddwn yn penderfynu pa lwybr sydd orau i chi pan ydych yn dechrau yn CCAF.
Dysgwch Sgiliau Byw’n Annibynnol yn:
Llwybr 2
Ar gyfer dysgwyr sy’n debygol o fyw bywydau lled-annibynnol a symud ymlaen i chwarae rhan weithredol yn y gymuned a gwaith gwirfoddol, neu
Llwybr 3
Ar gyfer dysgwyr sy’n debygol o fyw bywydau annibynnol gyda pheth cymorth, ac a allai symud ymlaen i gyflogaeth â chymorth, neu gyflawni cyflogaeth heb gymorth.
Pa bynnag lwybr y byddwch yn ei ddilyn byddwch yn cael targedau personol wedi’u teilwra ar gyfer eich siwrnai dysgu gyda ni. Bydd ein staff yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd ac yn dathlu eich cynnydd wrth i chi weithio tuag at gyflawni eich nodau a’ch dyheadau.
Bydd gan yr holl ddysgwyr ar ein rhaglenni ILS dargedau unigol wedi’u gosod iddynt ar sail eu taith ddysgu bersonol. Bydd staff yn cefnogi ac yn dathlu cynnydd dysgwyr.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Newyddion
Newyddion