Sgiliau Byw'n Annibynnol

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae ein cyrsiau Sgiliau Byw yn Annibynnol yn eich helpu i ddatblygu sgiliau ar gyfer eich dyfodol. Rydym yn canolbwyntio ar adeiladu eich sgiliau cyfathrebu, cyflogaeth a byw yn annibynnol. Rydym hefyd yn datblygu eich ymwybyddiaeth o iechyd, lles a’r gymuned leol.

Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?

Mae dysgwyr ar gyrsiau Sgiliau Byw yn Annibynnol yn aml yn symud ymlaen o ysgolion arbenigol a dylent gael IDP (Cynllun Datblygu Unigol) neu ddogfen gyfwerth statudol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?

Rydych yn dilyn un o ddau lwybr (Llwybr 2 neu Lwybr 3), sydd y eich cefnogi orau ac yn helpu i chi gyflawni eich nodau. Unwaith i chi ymgeisio, rydych yn cael eich gwahodd i Ddiwrnod Profiad, i gwrdd ag athrawon a dysgwyr newydd eraill. Ar ôl y diwrnod hwnnw, byddwn yn penderfynu pa lwybr sydd orau i chi pan ydych yn dechrau yn CCAF.

Dysgwch Sgiliau Byw’n Annibynnol yn:
Llwybr 2
Ar gyfer dysgwyr sy’n debygol o fyw bywydau lled-annibynnol a symud ymlaen i chwarae rhan weithredol yn y gymuned a gwaith gwirfoddol, neu
Llwybr 3
Ar gyfer dysgwyr sy’n debygol o fyw bywydau annibynnol gyda pheth cymorth, ac a allai symud ymlaen i gyflogaeth â chymorth, neu gyflawni cyflogaeth heb gymorth.

Pa bynnag lwybr y byddwch yn ei ddilyn byddwch yn cael targedau personol wedi’u teilwra ar gyfer eich siwrnai dysgu gyda ni. Bydd ein staff yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd ac yn dathlu eich cynnydd wrth i chi weithio tuag at gyflawni eich nodau a’ch dyheadau.

Sut mae dechrau ar y cwrs?

  1. Ar frig y dudalen mae opsiwn i astudio’r cwrs yng Nghaerdydd neu yn y Barri, dewiswch y campws yr hoffech astudio arno a chliciwch y botwm pinc Ymgeisiwch Nawr.
  2. Llenwch ein proses gais ar-lein.
  3. Ar ôl ymgeisio cewch wahoddiad i ddod i mewn am Ddiwrnod Profiad, lle byddwch yn cwrdd ag athrawon a dysgwyr eraill. Ar ôl y diwrnod hwnnw, byddwn yn penderfynu pa lwybr yw’r llwybr delfrydol i chi ei ddilyn pan fyddwch yn dechrau yn CCAF.
  4. Ar ôl cael eich rhoi ar gwrs cewch wahoddiad i ymrestru ar eich cwrs ac yn derbyn dyddiad diwrnod cyntaf eich tymor a’ch amserlen.
  5. Yna, rydych yn fyfyriwr CCAF.

Bydd gan yr holl ddysgwyr ar ein rhaglenni ILS dargedau unigol wedi’u gosod iddynt ar sail eu taith ddysgu bersonol. Bydd staff yn cefnogi ac yn dathlu cynnydd dysgwyr.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Eich CCAF

Mae ein cefnogaeth i ddysgwyr yn CCAF wedi ei wobrwyo y gorau yn y DU! (Gwobrau TES, 2022). Mae gennym athrawon arbenigol a thîm ADY ymroddedig, gydag arbenigwyr mewn sawl maes. Maent yno i gefnogi eich amser yn y coleg a’ch dyfodol. Gall ein Swyddogion Pontio weithio gyda chi i gefnogi symud i goleg, a gwneud yn siwˆ r bod gennych bopeth yn ei le i ddechrau gyda ni. Darganfyddwch fwy, neu cysylltwch ag un o’n tîm yn cavc.ac.uk/cy/support. Mae ein myfyrwyr yn cymryd rhan mewn ymweliadau, teithiau neu gystadlaethau sgiliau cynhwysol i ehangu sgiliau, profiadau a hyder yn ystod y cwrs.

Eich Dyfodol

Mae ein cyrsiau Sgiliau Byw yn Annibynnol yn eich helpu i adeiladu sgiliau bywyd hanfodol ac yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth bosibl yn y dyfodol. Wrth adael y coleg, bydd gennych gofnod dysgu personol yn arddangos eich cynnydd. Bydd eich camau nesaf yn dibynnu ar eich nodau a dyheadau, a fydd o bosib yn cynnwys dysgu pellach neu gyflogaeth â chymorth. Gall hyn gynnwys Interniaeth â Chymorth – cyfle unigryw i weithio gyda chyflogwr i ddarparu profiad cefnogol i ddechrau eich bywyd gwaith. Mae llawer o fyfyrwyr yna yn diogelu swydd gyda’r cyflogwr hwnnw neu yn defnyddio’r profiad i gael gwaith.

Mwy...

Tuag at Annibyniaeth
Sgiliau ar gyfer Dilyniant

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ