Y Gyfraith - AL
Ynglŷn â'r cwrs
Os ydych chi'n awyddus i fynd ar drywydd gyrfa yn y Gyfraith, yna mae’r cwrs AL Rhan Amser yn y gyfraith hwn yn le da i gychwyn. Wedi ei leoli yn ein Campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, mae rhan UG y rhaglen yn astudio'r amgylchedd cyfreithiol, tra bod y rhan A2 yn adeiladu ar hyn trwy archwilio maes o’r gyfraith. Mae'r cymhwyster hefyd yn trafod Hawliau Dynol yn y Deyrnas Unedig megis rhyddid i lefaru, grymoedd yr heddlu, sensoriaeth a gwahaniaethu. Mae’r gyfraith yn bwnc deinamig sy'n esblygu'n gyson gyda Deddfau Seneddol ac achosion pwysig yn aml yn ymwneud â materion dadleuol. Mae’r cwrs AL y Gyfraith hwn yn cwmpasu Cyfraith UG ac A2, felly mae’n bosibl i fyfyrwyr gael cymhwyster Safon Uwch llawn mewn blwyddyn.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Mae UG Cyfraith yn cwmpasu'r meysydd canlynol:
Uned 1: Deall Strwythurau a Phrosesau Cyfreithiol
- Datblygiad y system gyfraith gyffredin a dylanwad sylfaenol rheolaeth cyfraith, hawliau dynol a moesoldeb ar ein cyfreithiau
- Systemau'r llysoedd a sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd (yn cynnwys ymweliad i'r llysoedd)
- Y broses droseddol yn cynnwys caniatáu mechnïaeth a threialon rheithgor
- Y broses sifil yn cynnwys dewisiadau amgen i’r llysoedd a system y tribiwnlysoedd
- Mynediad at gyfiawnder a’r angen am gymorth cyfreithiol
Mae yna un arholiad ysgrifenedig (1awr 30munud) yn Ionawr neu Fehefin, sy'n cynnwys ateb dau draethawd dwy ran
Uned 2: Deall rhesymeg gyfreithiol a phersonél
- Mae hyn yn galw am astudio ffynonellau’r gyfraith ac edrych ar sut y’i defnyddir yn y llysoedd. Mae cynsail farnwrol yn gyfraith achos a benderfynir gan y barnwyr. Mae dehongliad statudol yn ymwneud â chyfraith a luniwyd gan y Senedd a sut mae barnwyr yn dehongli eu geiriau. Yn olaf, byddwn yn archwilio cyfreithiau Ewropeaidd a sut maent yn effeithio ar gyfraith Lloegr
- Mae’r pwnc personél yn edrych ar ddethol a rolau cyfreithwyr, bargyfreithwyr, barnwyr ac ynadon
Ceir un arholiad ysgrifenedig (1awr 30munud) yn Ionawr neu Fehefin sy'n cynnwys dau gwestiwn cymhwyso gofynnol ble mae myfyrwyr yn defnyddio eu gwybodaeth o ffynonellau'r gyfraith i ddatrys senarios ffug.
Ar Safon A2 - Hawliau Dynol, edrychir mewn manylder ar y cysyniad o ryddid dan y gyfraith. Mae’r pynciau yn cynnwys:
- Rôl y gyfraith o ran rheoleiddio rhyddid a gallu’r Llysoedd a'r Senedd i amddiffyn rhyddid ynghyd â rhwymedigaethau Ewropeaidd dan Gonfensiwn Ewrop ar Hawliau Dynol a’r Ddeddf Hawliau Dynol
- Mae rhyddid i lefaru yn archwilio meysydd fel cyfrinachedd swyddogol, anlladrwydd, difenwi a rheoli arddangosiadau a phrotest
- Mae rhyddid y person yn edrych ar bwerau'r heddlu i chwilio, arestio a chadw dinasyddion
- Mae’r hawl i breifatrwydd yn cynnwys rôl gwasg rydd a gallu’r heddlu a gwasanaethau diogelwch i gynnal ymgyrchoedd cudd megis gwrando ar alwadau ffôn
- Edrycha rhyddid crefyddol ar y broblem o ddilyn crefydd mewn Prydain fodern, amlddiwylliannol
- Yn olaf byddwn yn edrych ar faes cynyddol cyfreithiau yn erbyn gwahaniaethu megis hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb a chrefydd
Mae tri arholiad ym Mehefin. Yn LW4 mae myfyrwyr yn ateb dau gwestiwn am broblem o ddewis o bedwar, ble cyflwynir senario a rhaid i chi roi cyngor i gleient. Mae LW5 yn ddau draethawd o ddewis o chwech, ble gofynnir i chi ddadansoddi materion yn feirniadol. Mae LW6 yn gwestiwn synoptig sy'n gofyn i chi drafod maes pwysig o hawliau dynol gan gyfeirio at y gwaith a wnaed ar lefel UG.
Mae hwn yn gwrs dwys felly mae’n rhaid i chi fod yn sicr eich bod yn barod ar gyfer y gofynion academaidd a llwyth gwaith y cwrs.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Arholiad : £90.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00
Ffi Cwrs: £583.00
Gofynion mynediad
Isafswm o 5 TGAU Graddau A* i C gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg. Cyfweliad. Efallai y bydd pynciau unigol yn gofyn am raddau uwch. Efallai y caiff dysgwyr aeddfed heb y cymwysterau hyn eu derbyn ar ôl cyfweliad gyda thiwtor y pwnc.
Amseroedd cwrs
17:45 - 20:45 Dydd Mercher
Addysgu ac Asesu
- Pedwar arholiad ysgrifenedig
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
“Fe wnes i gyfarfod â llawer o bobl wych o gefndiroedd amrywiol; roeddwn i’n hoffi’r amrywiaeth yn y Coleg. Yn fy marn i, roedd y rhyddid oedd y Coleg yn ei roi i mi gyda fy astudiaethau yn rhoi i mi’r adnoddau oeddwn i eu hangen i fod yn weithiwr mwy annibynnol a bod â hyder i ddatblygu pethau ar fy mhen fy hun.”
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:
- Rheoli Busnes
- Y Gyfraith
- Newyddiaduriaeth
- Gwleidyddiaeth
- Addysgu
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu