Rhaglen Ysgolheigion

Enillwch y sgiliau a’r cymorth i lwyddo yn y prifysgolion gorau.

Mae ein Rhaglen Ysgolheigion adnabyddus wedi ei chynllunio ar gyfer dysgwyr sydd wedi arddangos rhagoriaeth academaidd yn eu harholiadau TGAU gan ennill isafswm o 6 Gradd A*-A. 
Mae’r Rhaglen Ysgolheigion, a astudir ochr yn ochr â chyrsiau Safon Uwch, yn datblygu’ch sgiliau ac yn darparu cymorth i wneud cais a llwyddo yn y prifysgolion gorau.
Fel rhan o’r rhaglen byddwch yn cwblhau Cymhwyster Prosiect Estynedig (CPE) CBAC, yn hytrach na Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. Mae’r CPE yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i astudio mewn prifysgol, yn cynnwys gwybodaeth bynciol fanwl, sgiliau ymchwilio, meddwl yn feirniadol a dadansoddol a’r gallu i weithio’n annibynnol. 
Mae’r rhaglen yn cynnwys ymweliadau gan siaradwyr o brifysgolion, dyddiau blasu pwnc penodol a chymorth penodol ar gyfer gwneud cais i Oxbridge, Russell Group a phrifysgolion elitaidd eraill ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Rydym hefyd mewn partneriaeth â Rhwydwaith Seren, rhwydwaith a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n cefnogi myfyrwyr sy’n cyflawni i’r safon uchaf ledled Cymru.

Beth yw Cymhwyster Prosiect Estynedig (CPE) CBAC?

  • Cymhwyster cydnabyddedig i baratoi myfyrwyr ar gyfer astudio mewn prifysgol.
  • Mae’r CPE yn ymwneud â chynllunio, trefnu, ymchwilio ac ysgrifennu traethawd 5,000 o eiriau ar bwnc o’ch dewis chi. Gellir clymu hyn gyda’ch dewis o brifysgol neu faes o ddiddordeb personol sy’n cydfynd â’ch astudiaethau. Rydych hefyd yn cyflwyno crynodeb o’ch darganfyddiadau i grwˆp bychan.
  • Addysgir y gwersi gan staff y coleg a thrwy ymweliadau gan ddarlithwyr prifysgol.
  • Cyfwerth â hyd at 28 pwynt UCAS (tua hanner cwrs Safon Uwch).
  • Ychwanegiad gwych i’ch datganiad personol a’ch CV.

Angen rhagor o wybodaeth? Cysylltwch â'n tiwtoriaid.

Emma Williams, Tiwtor UG Ysgolheigion - EWilliams@cavc.ac.uk

Matthew Eggerton, Tiwtor A2 Ysgolheigion - MEggerton@cavc.ac.uk