Gwnewch eich hun yn gyfarwydd â’r meysydd yr ydym yn cynnig Prentisiaethau ynddynt yn CCAF. Cymerwch olwg ar y rhestr bynciau yma. Mae prentisiaethau ar gael mewn ystod eang o feysydd gyrfa.
Cofiwch, bydd angen cyflogwr arnoch cyn y gallwch ymgeisio i ddechrau prentisiaeth. Felly os nad oes gennych chi un yn barod, mae gan Gyrfa Cymru wefan sy’n rhestru’r holl swyddi prentisiaeth gwag y gallwch chwilio drwyddynt: careerswales.gov.wales/apprenticeship-search. Fel arall, efallai eich bod yn gwybod am fusnes lleol sy’n chwilio am brentis.
AWGRYM ARDDERCHOG! Yn ogystal â chwilio am brentisiaeth, bydd llawer o bobl ifanc hefyd yn ymgeisio am gwrs llawn amser yn y maes dan sylw, fel cynllun wrth gefn.
Ar ôl ichi sicrhau cyflogwr y cewch wneud prentisiaeth gydag ef, cysylltwch â’n Tîm Prentisiaethau ar 01446 748212. Bydd yn cynghori a yw’n bosibl ichi ymgeisio ac astudio gyda CCAF ochr yn ochr â’ch gwaith ac yn rhoi gwybod ichi am eich camau nesaf.
Byddwch chi, eich cyflogwr a CCAF yn cytuno ar eich prentisiaeth. Byddwch yna’n ymrestru yn y coleg i ddechrau dysgu ochr yn ochr â’ch gwaith.
Gall unrhyw un sy’n hŷn nag 16 mlwydd oed, sy’n byw yng Nghymru ac nad yw mewn addysg lawn amser ymgeisio am Brentisiaeth. Bydd angen ichi gael cyflogaeth yn y sector yr hoffech weithio ynddo cyn ymgeisio i Goleg Caerdydd a’r Fro ar gyfer eich hyfforddiant. Bydd hefyd angen ichi wneud asesiad dechreuol mewn rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol. Os ydych chi eisoes yn cael eich cyflogi, yna gallwn ni weithio gyda chi a’ch cyflogwr i drefnu rhaglen brentisiaeth sy’n addas ichi.