Mae Prentisiaethau ar gael yn y meysydd pwnc canlynol

  • Cyfrifeg a Chyllid
  • Peirianneg Awyrenegol
  • Moduro
  • Gweinyddu Busnes
  • Crefftau Adeiladu
  • Cyfryngau Creadigol a Digidol
  • Gwasanaeth Cwsmeriaid
  • Electrodechnegol
  • Gwasanaethau Brys Tân ac Achub
  • Peirianneg
  • Gwresogi ac Awyru
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Lletygarwch ac Arlwyo
  • Adnoddau Dynol (CIPD ar Lefel 3 a 5)
  • TG
  • Newyddiaduraeth
  • Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Digwyddiadau Byw
  • Rheoli
  • Plymio a Gwresogi
  • Rheweiddio ac Aerdymheru
  • Rhagoriaeth Chwaraeon
  • Rheoli Adnoddau Cynaliadwy
  • Theatr Dechnegol

Gofynion Mynediad

Gall unrhyw un sy’n hŷn nag 16 mlwydd oed, sy’n byw yng Nghymru ac nad yw mewn addysg lawn amser ymgeisio am Brentisiaeth. Bydd angen ichi gael cyflogaeth yn y sector yr hoffech weithio ynddo cyn ymgeisio i Goleg Caerdydd a’r Fro ar gyfer eich hyfforddiant. Bydd hefyd angen ichi wneud asesiad dechreuol mewn rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol. Os ydych chi eisoes yn cael eich cyflogi, yna gallwn ni weithio gyda chi a’ch cyflogwr i drefnu rhaglen brentisiaeth sy’n addas ichi.