Mae pob myfyriwr Safon Uwch yn CCAF, ac eithrio’r rhai sy’n dilyn y Rhaglen Ysgolheigion, yn astudio Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru ochr yn ochr â’u cyrsiau Safon Uwch.
Mae’r cymhwyster hwn yn gyfwerth â chwrs Safon Uwch arall o ran maint a’r pwyntiau UCAS y mae modd ichi eu cyflawni wrth ei astudio. Mae’n datblygu eich sgiliau ehangach ar gyfer astudio mewn prifysgol ac ar gyfer cyflogaeth yn cynnwys sgiliau annatod mewn meddwl yn feirniadol a datrys problemau, creadigrwydd ac arloesedd, cynllunio a threfnu ac effeithiolrwydd personol.
Darperir y rhaglen gan ein tîm o staff arbenigol, a byddwch yn cydweithio a gweithio’n annibynnol ar dri phrosiect. Gyda’r nod cyffredinol o greu dinasyddion effeithiol, cyfrifol a gweithgar, bydd gennych ddewis o destunau a hyblygrwydd o ran sut y byddwch yn cynhyrchu pob prosiect.
Yr hyn rwyf wedi ei fwynhau fwyaf tra yn y Coleg yw cymaint rwyf wedi datblygu. Rwyf wedi dysgu mwy na fuaswn wedi ei wneud yn unrhyw le arall. Rwyf wedi cael llawer o gyfleoedd i roi cynnig ar bethau newydd ac rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd – mae wedi rhoi cymaint mwy o hyder i mi. Cyflawniad wnaeth sefyll allan i mi oedd bod yn rhan o Academi Newyddiaduraeth Jason Mohammad, fe wnes i bodlediadau, sioeau teledu a darllediadau radio yn Gymraeg a Saesneg. Doeddwn i ddim wedi meddwl am weithio yn y cyfyngau o’r blaen – rwyf wedi dod o hyd i angerdd na wyddwn oedd gen i.