Mae CCAF yn darparu cymorth i ddysgwyr sy’n cael trafferth gyda materion personol, cymdeithasol neu emosiynol a allai fod yn cael effaith arnyn nhw neu eu profiad yn y coleg. Yn y coleg, bydd gan ddysgwyr fynediad at Hyfforddwyr Cynnydd sy’n darparu cymorth ac arweiniad bugeiliol. Mae hyn yn cynnwys darparu sesiynau tiwtorial yn ogystal â chynorthwyo dysgwyr gyda gosod targedau personol, meithrin cymhelliant a chefnogi eu taith gyffredinol fel dysgwr.
Rhaglen Cymorth i Fyfyrwyr CCAF
Bydd gan holl ddysgwyr CCAF fynediad at yr ap rhaglen cymorth i fyfyrwyr. Mae’r cymorth llesiant a chyngor hwn ar gael 24 awr y dydd ac mae’n hygyrch mewn dros 200 o ieithoedd. Mae cymorth cwnsela ar gael drwy’r rhaglen cymorth i fyfyrwyr a gall dysgwyr wneud cais am y cymorth hwn drwy'r ap.
Cymorth Llesiant
Mae Hyfforddwyr Dysgu Ymroddedig Coleg Caerdydd a'r Fro yn cynnig ystod amrywiol o gymorth i ddysgwyr a allai fod yn wynebu amrywiaeth o broblemau, sy’n gwneud bywyd o ddydd i ddydd yn fwy anodd. Problemau fel pryderon iechyd meddwl, problemau cyffuriau neu alcohol, perthnasoedd ac iechyd rhywiol, anawsterau teuluol etc.
Gall ein Hyfforddwyr Dysgu cyfeillgar:
Hoffem i ddysgwyr deimlo eu bod yn cael eu cefnogi, yn ddiogel ac yn hapus yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro i’w galluogi i ddatblygu ym mhob elfen o’u bywyd a/neu waith.
Mae gan CCAF dîm pwrpasol o Swyddogion Diogelu sy’n gweithio ar draws y campysau i sicrhau llesiant pob dysgwr.