Cynllun Ysgoloriaeth Athletwyr Talentog (TASS)

Cefnogi athletwyr talentog i sicrhau llwyddiant ym myd chwaraeon ac addysg

Yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, rydym yn deall yr ymroddiad, yr ymrwymiad a'r cydnerthedd sydd ei angen er mwyn cystadlu ar lefel uchel mewn chwaraeon.

Dyna pam rydym yn falch o gefnogi athletwyr talentog drwy'r Cynllun Ysgoloriaeth Athletwyr Talentog (TASS), gan helpu dysgwyr i gydbwyso gofynion hyfforddiant, cystadlu ac astudio wrth gyflawni eu nodau academaidd.

P'un a ydych chi'n cynrychioli eich camp ar lefel ranbarthol, genedlaethol neu ryngwladol, rydym yn cydnabod y gall ymgeisio i gyflawni rhagoriaeth mewn chwaraeon ochr yn ochr â'ch addysg ddod â heriau unigryw. Drwy TASS, gall dysgwyr cymwys gael mynediad at gefnogaeth wedi'i theilwra sydd wedi'i chynllunio i'w helpu i lwyddo yn eu hastudiaethau ac yn y gamp o'u dewis hwy.

Beth yw TASS?

Mae Cynllun Ysgoloriaeth Athletwyr Talentog (TASS) yn rhaglen sy'n cael ei chydnabod yn genedlaethol sy'n helpu athletwyr talentog i gyfuno addysg gydag ymrwymiadau chwaraeon ar lefel uchel.

Mae TASS yn cefnogi dysgwyr sy'n gwneud cynnydd yn eu camp wrth weithio tuag at gymwysterau, gan eu helpu i ddatblygu'r sgiliau, yr hyder a'r rhwydweithiau cefnogi sydd eu hangen er mwyn cyflawni eu potensial a hynny ar y maes chwarae ac oddi arno.

Sut Rydym yn Cefnogi Ein Hathletwyr

Fel darparwr achrededig TASS, mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i greu amgylchedd lle gall athletwyr talentog ffynnu.

Gall cefnogaeth gynnwys:

  • Hyblygrwydd o amgylch hyfforddiant ac ymrwymiadau cystadlaethau
  • Mynediad at gefnogaeth academaidd pan mae ymrwymiadau chwaraeon yn effeithio ar bresenoldeb
  • Cyngor ac arweiniad er mwyn helpu i gydbwyso chwaraeon, astudio a llesiant
  • Cyfleoedd datblygiad personol
  • Cefnogaeth benodol gan staff sy'n deall gofynion chwaraeon elît

Darperir cefnogaeth ar sail unigol ac mae wedi'i deilwra i anghenion pob dysgwr.

Pam Dewis Coleg Caerdydd a'r Fro?

Bob blwyddyn mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cefnogi dysgwyr sy'n cystadlu ar draws amrywiaeth o chwaraeon ar lefel rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Credwn na ddylai dysgwyr orfod dewis rhwng cyflawni eu huchelgais yn y byd chwaraeon a llwyddo ym myd addysg. Drwy raglenni megis TASS, rydym wedi ymrwymo i helpu ein dysgwyr ddilyn y ddau.

Os ydych chi'n athletwr talentog sy'n awyddus i barhau gyda'ch addysg mewn amgylchedd sy'n deall eich dyheadau, gall Coleg Caerdydd a'r Fro eich helpu i gyflawni eich nodau.

Rhagor o Wybodaeth

Os ydych chi'n ystyried astudio yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro ac yr hoffech chi wybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer athletwyr talentog, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda James Young jyoung@cavc.ac.uk.