Caiff y rhaglenni Cyfrif Dysgu Personol (PLA) hyn eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac maent yn caniatáu i'r rhai sy’n bodloni'r meini prawf isod fanteisio ar gyrsiau a chymwysterau proffesiynol AM DDIM sy'n datblygu eich sgiliau ac yn eich helpu i ddatblygu neu newid eich gyrfa.
Mae cyrsiau PLA yn darparu’r sgiliau a'r cymwysterau mae cyflogwyr lleol yn chwilio amdanynt. Maent yn canolbwyntio ar sectorau sy’n tyfu yn yr ardal hon lle mae angen am bobl sydd â’r sgiliau hyn ar hyn o bryd. Wedi'u dylunio i fod yn hyblyg ac i weithio o gwmpas eich bywyd a'ch ymrwymiadau, y nod erbyn diwedd y cwrs neu gyrsiau yw y bydd swyddi â chyflog da ar gael i chi ymgeisio amdanynt.
Cymhwystra Unigolion
I fod yn gymwys rhaid i chi:
fod yn byw yng Nghymru
fod yn 19 oed neu'n hŷn (ar ddechrau’r cwrs)
fod yn cael eich cyflogi gan Tata Steel UK ar hyn o bryd (safleoedd yng Nghymru) NEU ei gadwyn gyflenwi ehangach yng Nghymru (gan gynnwys rhai sydd mewn perygl o gael eu swydd wedi’i dileu).
Nid oes cyfyngiadau’n ymwneud â meini prawf cyflog neu enillion.
Pan fydd ein dyraniad o gyllid wedi’i wario, byddwn yn cymryd eich manylion a chysylltu â chi cyn gynted ag y bydd unrhyw arian ychwanegol yn cael ei gadarnhau.
slipiau cyflog am y 3 mis cyn gwneud cais (diwedd bob mis os ydych yn cael eich talu’n wythnosol)
NEU
eich slip cyflog diwethaf os cafodd ei gyhoeddi o fewn y mis cyn cyflwyno’r cais AC yn dangos y gwerth ar gyfer y flwyddyn hyd yma.
hunan-ddatganiad yn cadarnhau trefniadau’r bartneriaeth rhwng eu cyflogwr presennol a Tata Steel UK (gan gynnwys maes yr elfen o’r gadwyn gyflenwi - gweler y disgrifiadau isod)
Mae cadwyn gyflenwi yn cyfeirio at y rhwydwaith o unigolion a chwmnïau sydd â threfniadau partneriaeth â Tata Steel UK (safleoed Cymru). Gall yr elfennau o’r gadwyn gyflenwi fod mewn meysydd megis:
Cynhyrchwyr: dyma’r endidau sy’n gyfrifol am weithgynhyrchu neu gynhyrchu y deunyddiau crai neu gydrannau sy’n mynd i mewn i’r cynnyrch terfynol.
Gwerthwyr: y canolwyr hyn sy’n cyflenwi’r deunyddiau angenrheidiol i’r cynhyrchwyr.
Warysau: mae’r cyfleusterau storio hyn yn cadw cyflenwadau, gan sicrhau llif di-dor o nwyddau.
Cwmnïau cludo: y rhain sy’n rheoli symudiad cynhyrchion rhwng gwahanol bwyntiau yn y gadwyn gyflenwi
Canolfannau dosbarthu: mae’r rhain yn trefnu i nwyddau gael eu dosbarthu i wahanol leoliadau
Manwerthwyr: y rhain sy’n gwerthu’r cynnyrch terfynol yn uniongyrchol i ddefnyddwyr.