Coleg Caerdydd a’r Fro yn cefnogi Gwobrau It’s My Shout

15 Mai 2024

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn cefnogi Gwobrau It’s My Shout eleni ac yn noddi Gwobr yr Actor Gorau.

Mae It’s My Shout yn Gwmni Buddiannau Cymunedol nid-er-elw sydd wedi bod yn grymuso pobl mewn cymunedau yng Nghymru i gael profiad o weithio yn y diwydiant Ffilm a Theledu ers dros 20 mlynedd.

Bob blwyddyn mae’n cynhyrchu tua 12 o ffilmiau byrion gan ddefnyddio pobl leol o flaen a’r tu ôl i’r camera ym mhob rôl, o actorion i awduron, cyfarwyddwyr, sgowtiaid lleoliad, rhedwyr, steilwyr gwallt a cholur, dylunwyr gwisgoedd a golygyddion ffilm. Wedyn mae'r ffilmiau byrion yn cael eu darlledu ar BBC ac S4C.

Mae Gwobrau It’s My Shout, sy’n cael eu cynnal eleni yn yr ICC ar 19eg Mai, yn dathlu’r bobl hynny a’u gwaith ar y gyfres gyfredol o gynyrchiadau.

Mae gan CCAF hanes maith o’i ddysgwyr yn cymryd rhan yng nghynyrchiadau It’s My Shout. Y llynedd, enillodd Katie Pritchard (llun, dde), dysgwr ar y cwrs Celfyddydau Perfformio (Theatr Gerdd), y Wobr i’r Actor Ifanc Gorau am ei gwaith yn y brif ran yn y ffilm fer Small Change. Ers hynny mae Katie wedi symud ymlaen i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Rydyn ni’n falch o gefnogi Gwobrau It’s My Shout eleni a noddi Gwobr yr Actor Gorau. Yn CCAF ein nod ni yw darparu cyfleoedd sy’n real, nid realistig, a thros y blynyddoedd mae ein dysgwyr ni wedi cael profiad gwaith gwerthfawr ym mhob agwedd ar greu ffilmiau, o actio drwodd i ddylunio gwisgoedd a gwallt a cholur, felly rydyn ni wedi gweld yn uniongyrchol y gwaith rhagorol mae It's My Shout yn ei wneud. Pob lwc i bawb yn y gwobrau heno!”

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Celfyddydau Perfformio yn CCAF neu i wneud cais, edrychwch yma.