A oes angen prawf eich bod yn fyfyriwr llawn amser at ddibenion y dreth gyngor, budd-daliadau neu aelodaeth?

Os ydych angen tystiolaeth eich bod yn fyfyriwr am unrhyw reswm, gallwn roi tystiolaeth o’r fath ichi ar gais; llenwch y ffurflen isod ac yna bydd copi o’r dystysgrif yn cael ei anfon atoch trwy e-bost:

Cliciwch yma i wneud cais am dystysgrif.

Os ydych yn fyfyriwr, ni fyddwch yn gorfod talu’r Dreth Gyngor:

os ydych yn byw mewn fflat, mewn tŷ neu mewn fflat un ystafell ar eich pen eich hun

os ydych yn byw mewn fflat, mewn tŷ neu mewn fflat un ystafell gyda myfyrwyr eraill yn unig

os ydych yn byw mewn ystafell mewn neuadd breswyl

Os ydych yn bodloni’r amodau uchod, ni fydd yn rhaid talu treth ar yr eiddo hyd yn oed pe baech yn ei adael yn wag e.e. y tu allan i dymor y coleg. Cyn belled â bod yr eiddo wedi cael ei feddiannu am o leiaf 6 wythnos, gall y cyfnod eithrio hwn bara hyd at bedwar mis o ddiwedd y cyfnod y meddiannwyd yr eiddo y tro diwethaf.

Os ydych yn byw gyda rhywun nad yw’n fyfyriwr, ni fyddwch yn cael eich cyfrif tuag at fil y Dreth Gyngor ar gyfer yr eiddo.

Os ydych o’r farn y gallech fod yn gymwys, dylech gysylltu ag adran y Dreth Gyngor yn eich awdurdod lleol.

Er mwyn ichi gael eich ystyried yn fyfyriwr llawn-amser:

Rhaid i’ch cwrs bara blwyddyn fan leiaf a rhaid iddo gynnwys o leiaf 21 awr o astudio bob wythnos.

NEU

Rhaid ichi fod dan 20 oed ac yn astudio ar gyfer cymhwyster hyd at Safon Uwch, a rhaid i’ch cwrs bara 3 mis fan leiaf a chynnwys o leiaf 12 awr o astudio bob wythnos.

NEU

Rydych yn fyfyriwr rhyngwladol ac nid ydych yn un o ddinasyddion Prydain, ac mae rheolau mewnfudo yn eich atal rhag gwneud gwaith cyflog a hawlio budd-daliadau tra byddwch yn y DU.