Cwestiynau Cyffredin

Ar gyfer ymgeiswyr llawn amser i ddechrau ym mis Medi 2021

Boed ydych eisoes wedi gwneud cais ac wedi cael cynnig lle ar gwrs neu’ch bod yn meddwl am eich cam nesaf ac yn ystyried mynd i’r Coleg, efallai fod gennych gwestiynau ynghylch y camau i’w cymryd a beth sy’n digwydd nesaf. Nid ydych ar eich pen eich hun ac rydym yma i helpu! Mae ein Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr bob amser ar gael i gynnig cyngor a helpu i ateb ymholiadau. Yn ogystal, rydym wedi creu rhestr o gwestiynau ac atebion cyffredin a ddaw i’ch meddwl efallai ar wahanol adegau o’ch taith ynghylch dechrau ar gwrs llawn amser ym mis Medi. Gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i chi.

Angen rhagor o help i ymrestru? Oes gennych chi gwestiwn? Cysylltwch â ni


Mae ein tîm Gwasanaethu Myfyrwyr cyfeillgar yma drwy gydol yr haf i’ch helpu, ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi, neu eich cefnogi chi os ydych yn profi problemau wrth ymrestru neu’n methu talu eich ffi.

Cysylltwch â ni
Sgwrsio Byw ar ein gwefan: Cliciwch ar yr eicon sgwrsio byw ar eich sgrin
Ffôn: 02920 250 250
Anfon e-bost: info@cavc.ac.uk 

Cwestiynau Cyffredin ar gyfer y rheiny nad ydynt wedi ymgeisio eto

Rwyf eisiau gwneud cais am gwrs sy’n dechrau ym mis Medi, a yw’n rhy hwyr?

Nid yw’n rhy hwyr i wneud cais ar gyfer cwrs sy’n dechrau ym mis Medi. Mae gennym leoedd ar ôl o hyd ar gyrsiau llawn amser yn dechrau fis Medi. Mae gwneud cais yn hawdd, ac mae popeth yn digwydd ar-lein, ond os oes angen ychydig o help arnoch chi, gwiriwch ein Parth Ymgeisio ar ein tudalennau Diwrnod Agored Rithiol yma.

 Beth sy'n digwydd pan fyddaf yn gwneud cais? 

Ar ôl i chi ymgeisio, bydd ein Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn prosesu eich cais, ac yn seiliedig ar y wybodaeth wedi’i chyflwyno, byddant yn cysylltu â chi o fewn 48 awr i brosesu eich cais i'r cam nesaf. Os ydych wedi derbyn Graddau a Bennir gan Ganolfan gan eich Ysgol neu Goleg, gallwn dderbyn y rhain fel tystiolaeth eich bod wedi bodloni gofynion mynediad y cwrs a gallwn eich ymrestru yn seiliedig ar y rhain. Nid oes rhaid i chi aros tan fis Awst. 

Os ydych wedi gwneud cais ond heb glywed unrhyw beth gennym ni, cysylltwch â’n Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr ar 02920 250 250 neu drwy ein Sgwrs Fyw yma ar y wefan. 

Nid wyf wedi ennill y graddau roeddwn yn gobeithio amdanynt; a allaf wneud cais o hyd? 

Gallwch. Gallwch barhau i wneud cais, ac mae gennym lawer o gyngor ac arweiniad ar gael i’ch rhoi ar ben ffordd a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i’r cwrs cywir i chi, waeth beth yw eich graddau. Ewch i’n Sgwrs Fyw yma ar ein gwefan i siarad â’n tîm gwasanaethau myfyrwyr cyfeillgar neu ffoniwch 02920 250 250 os nad ydych yn siŵr o’ch opsiynau ac os oes angen rhywfaint o gyngor arnoch chi. 

Cwestiynau Cyffredin ar gyfer y rheiny sydd wedi cael cynnig lle ar gwrs 

Mae gen i gynnig ar gyfer lle, ond nid wyf wedi cael e-bost i ymrestru. Beth ddylwn ei wneud? 

Yn gyntaf, gwiriwch eich e-byst am e-bost gan Goleg Caerdydd a’r Fro o’r enw “amser ymrestru”. Peidiwch ag anghofio gwirio'ch ffolder sbam hefyd. Os nad ydych yn medru dod o hyd i’r e-bost gennym, bydd ein Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn barod i’ch helpu. Cysylltwch â nhw ar 02920 250 250 neu drwy’r sgwrs ar-lein ar ein gwefan. 

Nid wyf yn gwybod beth yw fy manylion mewngofnodi i ymrestru. Sut allaf i gael gafael ar y rhain? 

Eich enw defnyddiwr yw eich rhif myfyriwr sydd i’w weld ar frig eich e-bost cynnig neu gadarnhad cais. A’r cyfrinair yw’r un rydych chi’n ei ddewis pan fyddwch yn gosod y cyfrif. Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, gallwch ei ail-osod drwy glicio ar ‘reset password’ a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin. Os ydych yn dal i gael problemau, cysylltwch â’n Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr a fydd yn barod i helpu i’ch tywys. 

Nid wyf wedi ennill y graddau sydd eu hangen arnaf i ar gyfer fy nghwrs, beth ddylwn i'w wneud? 

Yn gyntaf, peidiwch â phoeni os nad yw eich graddau yr hyn yr oeddech wedi gobeithio amdano, ac nad ydych yn bodloni gofynion mynediad eich cynnig amodol. Uwchlwythwch eich tystiolaeth hyd yn oed os nad ydych wedi bodloni’r gofynion, a bydd un o’n Cynghorwyr Gwasanaethau Myfyrwyr yn cysylltu â chi i drafod y cam nesaf. Efallai y gallech dal ymrestru ar eich cwrs dewisol, ond os ddim, byddwn yn dod o hyd i gwrs amgen sy’n bodloni eich anghenion a chynnig llawer o gyngor ac arweiniad.  

Cysylltwch â nhw ar 02920 250 250 neu drwy’r sgwrs ar-lein ar ein gwefan

Rwyf wedi cael rhai o'm graddau, ond nid pob un ohonynt. Beth ddylwn ei wneud? 

Peidiwch â phoeni, uwchlwythwch dystiolaeth wrth i chi ei dderbyn cyn gynted â phosibl. Byddwn yn dal eich lle tan ichi dderbyn eich graddau. Os oes gennych chi broblem neu eisiau siarad am hyn, cysylltwch â’n Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr a fydd yn barod i’ch helpu. Cysylltwch â nhw ar 02920 250 250 neu drwy ein sgwrs ar-lein ar y wefan. 

Roedd gen i gynnig diamod, a oes angen imi uwchlwytho unrhyw dystiolaeth? 

Os oedd gennych chi gynnig diamod, nid oes angen ichi uwchlwytho tystiolaeth, ond dilynwch y ddolen ar gyfer Cam 1 ymrestru, gwiriwch eich manylion ac uwchlwythwch llun ar gyfer eich cerdyn adnabod myfyriwr. Bydd ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr wedyn yn anfon manylion y cam nesaf atoch chi, fel eich bod yn medru talu ac ymrestru ar-lein. 

Rwyf wedi cwblhau Cam 1 o’r broses ymrestru ac wedi dilyn y ddolen rwyf wedi’i derbyn i Gam 2 ond rwy’n cael trafferth talu fy ffi ymrestru/ nid wyf yn medru talu fy ffi ymrestru. Beth ddylwn ei wneud? 

Os nad ydych yn medru talu eich ffi ymrestru, gall ein Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr helpu. Cysylltwch â nhw i gael arweiniad.

Os ydych yn cael trafferth wrth geisio talu ar-lein, cysylltwch â’n Gwasanaethau Myfyrwyr a fydd yn medru eich helpu. Cysylltwch â nhw ar 02920 250 250 neu drwy ein sgwrs ar-lein ar y wefan.

Mae ein safle’n defnyddio cwcis i helpu i roi gwell profiad i chi. Drwy barhau i'w ddefnyddio, rydych yn cydsynio i ddefnyddio cwcis

Cwestiynau Cyffredin Cyffredinol 

Beth yw Graddau a Bennir gan y Ganolfan (CDGs)? 

Mae Graddau a Bennir gan y Ganolfan (CDGs) yn raddau sy’n cael eu rhoi i chi gan eich Ysgol neu Goleg eleni (2021) ar gyfer eich canlyniadau TGAU. Mae pob Ysgol a Choleg yng Nghymru’n cynnig Graddau dros dro a Bennir gan y Ganolfan ym mis Mehefin gyda’r cyfle i apelio cyn ichi dderbyn y graddau a gadarnhawyd ym mis Awst.  Mae CAVC yn derbyn eich Graddau a Bennir gan y Ganolfan ar gyfer ymrestru, felly does dim rheswm i chi aros tan fis Awst. 

Rwyf wedi gorffen yn yr Ysgol a heb benderfynu ac yn ansicr beth i’w wneud nesaf? 

Mae gennym lawer o gyngor ac arweiniad ar gael i’ch rhoi ar ben ffordd a dod o hyd i’r llwybr cywir i chi. Cysylltwch â'n Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr ar 02920 250 250 neu drwy ein sgwrs Fyw yma ar y wefan a all drefnu Sesiwn Cyngor ac Arweiniad i chi. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn dod o hyd i’r rhaglen gywir ar eich cyfer chi i’ch rhoi ar ben ffordd ar gyfer y camau nesaf ar ôl gadael yr ysgol. 

A allaf ail-sefyll fy TGAU yn CAVC? 

Mae CAVC wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bawb y cyfle i wella eu Mathemateg a Saesneg.

Mae pawb sy’n astudio cwrs llawn amser yn CAVC yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau Mathemateg a Saesneg ymhellach fel rhan o’u cwrs, waeth beth rydych yn ei astudio. 

Os gwnaethoch dderbyn gradd D neu uwch yn yr ysgol neu goleg, gallwch ddewis i ail-sefyll eich TGAU yn CAVC. Os gwnaethoch dderbyn radd D neu is, gallwch ddechrau rhaglen ochr yn ochr â'ch cwrs i hybu'ch sgiliau i gyrraedd yno.


Roeddwn yn gobeithio sicrhau Prentisiaeth, ond nid wyf wedi llwyddo i wneud hynny. A allaf ymgeisio o hyd ar gyfer cwrs yn y Coleg?  

Gallwch.  Nid yw'n rhy hwyr i wneud cais. Mae gennym nifer o gyrsiau ar gael i ddechrau ym mis Medi 2021 mewn ystod eang o bynciau. Porwch drwy ein pynciau ar-lein neu cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth. 

Angen ychydig mwy o wybodaeth?