Ymrestru yn CAVC

A ydych wedi cael cynnig lle ar gwrs yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27? Dyma'r hyn sydd angen i chi ei wneud.

Cofrestru ar Gwrs Amser Llawn


Os ydych wedi gwneud cais am gwrs amser llawn yn CCAF, neu os ydych wedi cael cynnig lle ar gwrs o’r fath, byddwn wedi anfon e-bost atoch ynglŷn â’r camau nesaf.


Gwiriwch eich e-bost. Methu dod o hyd i’r e-bost? Edrychwch yn eich ffolder sothach neu cysylltwch â ni.


Bydd yr e-bost yn dweud pa gam rydych wedi’i gyrraedd yn y broses, gan nodi’r camau nesaf – sef Cynnig Amodol, Cynnig Diamod neu Gais Hwyr. Isod, cliciwch ar y cam rydych wedi’i gyrraedd i gael rhagor o wybodaeth.

Os ydych wedi cael Cynnig Diamod ar gyfer cwrs (heb orfod disgwyl am ganlyniadau arholiadau)

Rydym wedi anfon e-bost cofrestru atoch.


Nawr, gallwch gofrestru ar-lein (trwy ddefnyddio’r ddolen yn yr e-bost) neu trwy fynd i Gampws Canol y Ddinas ddydd Llun i ddydd Iau, 10.00am – 4.00pm.


Rhaid ichi wneud hyn cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau eich lle yn y coleg, ac erbyn hanner dydd, dydd Mawrth 26 Awst, pan fydd eich cynnig yn dod i ben a phan fydd modd ei gynnig i rywun arall. Wrth gofrestru, neilltuir y lleoedd ar sail ‘y cyntaf i’r felin’.


Methu dod o hyd i’r e-bost? Gwiriwch y cyfeiriad e-bost y gwnaethoch ei roi inni wrth ymgeisio. A chofiwch edrych yn eich ffolder sothach. Ydych chi’n dal i fethu dod o hyd iddo? Cysylltwch â ni ar studentservices@cavc.ac.uk
i roi gwybod.


Awgrymiadau ar gyfer cofrestru


Edrychwch ar yr e-bost a gawsoch gennym a chliciwch ar y ddolen i gofrestru. Bydd angen ichi fewngofnodi trwy ddefnyddio’r un manylion ag y gwnaethoch eu defnyddio i ymgeisio / cofrestru o’r blaen. Ar ôl mewngofnodi, cliciwch trwy’r sgriniau i gadarnhau eich manylion ac i lenwi unrhyw fylchau. Gofynnir ichi adolygu eich manylion ar y diwedd cyn clicio ar “cyflwyno”. Yna, byddwn yn cysylltu â chi yn fuan trwy e-bost i gadarnhau eich bod wedi cofrestru.


Wedi anghofio eich cyfrinair? Gallwch ei ailosod trwy ddewis “wedi anghofio cyfrinair”. Yna, byddwch yn cael e-bost ar gyfer ailosod eich cyfrinair.

Os ydych wedi cael Cynnig Amodol (aros am ganlyniadau arholiadau cyn cofrestru)

Byddwn yn anfon e-bost atoch erbyn canol mis Awst

Bydd yr e-bost hwn yn cynnwys apwyntiad i ddod i’r coleg i ymrestru. Bydd eich apwyntiad naill ai ddydd Iau 20fed neu ddydd Gwener 21ain Awst 2026, naill ai yng Nghampws y Barri neu yng Nghampws Canol y Ddinas.

Mae’n bwysig ichi ddod i’r coleg ar gyfer yr apwyntiad hwn, ar y dyddiad a’r amser a nodir yn yr e-bost.

Heb ddod o hyd i’ch e-bost erbyn dydd Gwener 14eg Awst? Sicrhewch eich bod wedi gwirio’r cyfeiriad e-bost a roesoch i ni wrth wneud eich cais. A chofiwch edrych yn eich ffolder sothach. Dal heb ddod o hyd iddo? Cysylltwch â ni drwy ffonio: 02920 250 250 i roi gwybod i ni.

Methu dod i’ch apwyntiad? Os na allwch ddod i’ch apwyntiad, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl, ac erbyn 12 hanner dydd ar ddydd Llun 24ain Awst 2026, pan fydd eich cynnig yn dod i ben a gellir cynnig y lle i rywun arall. Cysylltwch â ni ar 02920 250 250. Cysylltwch cyn gynted â phosibl, gan y bydd lleoedd yn cael eu dyrannu yn ystod ymrestru ar sail y cyntaf i’r felin. Nodwch hefyd bod y llinellau ffôn a’r system e-bost yn brysur iawn ar yr adeg hon o’r flwyddyn.

Ar y diwrnod cofrestru

Cofiwch ddod â’r canlynol gyda chi:

  • Canlyniadau eich arholiadau

Peidiwch â phoeni os na chawsoch y graddau disgwyliedig – dewch i’ch apwyntiad. Gallwn wirio eich canlyniadau, helpu i ddod o hyd i le ichi a’ch cofrestru ar y cwrs sy’n gweddu i chi.

  • Dull adnabod os nad ydych wedi astudio gyda CCAF o’r blaen (er enghraifft Cerdyn Yswiriant Gwladol / Pasbort / dogfen adnabod o fath arall sy’n cynnwys eich llun).
  • Dim dogfen adnabod? Dewch i’ch apwyntiad yr un fath a gallwn weld eich dogfen adnabod pan fyddwch yn dechrau eich cwrs.

Wrth ymrestru:

  • Mae’n bwysig ichi ddod i’r coleg ar gyfer eich apwyntiad, ar y dyddiad a’r amser a nodir yn yr e-bost. Ni fydd modd inni eich cofrestru’n gynharach na’r amser a neilltuwyd ar eich cyfer ar y diwrnod.
  • Yn yr apwyntiad, byddwch yn cael sgwrs gyda’ch athrawon, byddwch yn dangos canlyniadau eich arholiadau a byddwch yn cofrestru ar y cwrs sy’n gweddu i chi. Os na fyddwch wedi cael y graddau disgwyliedig, bydd ein hathrawon a’n cynghorwyr wrth law i’ch helpu i chwilio am yr opsiwn gorau i chi.
  • O’r amser a neilltuwyd ar gyfer eich apwyntiad, bydd myfyrwyr cymwys yn cael eu cofrestru ar sail ‘y cyntaf i’r felin’. Mae gan y Coleg ddyletswydd statudol i roi blaenoriaeth i addysg amser llawn i bobl ifanc 16-18 oed. Mae cyrsiau amser llawn ar gael i bobl 19+ oed; ond pan fo’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i ddysgwyr cymwys yn y grŵp oedran hwn, yn unol â pholisi cenedlaethol.
  • Ar ôl cael lle, byddwch yn mynd i’n canolfan ymrestru i ymrestru ac yna byddwch yn cael eich bathodyn adnabod coleg. Bydd gofyn i chi gael tynnu eich llun ar gyfer hwn.
  • Mae’n ddiwrnod prysur yn y coleg a gall y broses gyfan gymryd tua 2 awr fel arfer.

Cais hwyr – rydych wedi ymgeisio ar ôl 1 Awst ac rydych wedi cael gwahoddiad i gofrestru’n hwyr

Os ydych wedi gwneud cais rhwng dydd Sadwrn 1af Awst a dydd Llun 17eg Awst


Cewch eich gwahodd i sesiwn ymrestru hwyr â blaenoriaeth ddydd Llun 24ain Awst rhwng 1pm a 4pm yng Nghampws Canol y Ddinas.


Bydd y sesiwn hon yn cynnig cyfle cyntaf i bawb sydd wedi ymgeisio yn ystod y cyfnod hwn i gofrestru ar unrhyw leoedd sydd ar gael ar gyrsiau, cyn i drefniant ‘cofrestru hwyr’ y coleg ddechrau i bawb.


Os ydych wedi gwneud cais ar ôl dydd Llun 18 Awst


Gofynnir i chi ddod i’r sesiwn ymrestru agored gynharaf bosib.


Cynhelir y sesiynau ymrestru agored fel a ganlyn:
Dydd Mercher 26ain Awst – 9am – 6pm yng Nghampws y Barri a Champws Canol y Ddinas
Dydd Iau 27ain Awst – 3pm – 6pm yng Nghampws y Barri a Champws Canol y Ddinas
Dydd Mawrth 1af Medi – 3pm – 6pm yng Nghampws y Barri a Champws Canol y Ddinas
Dydd Mercher 2il Medi – 3pm – 6pm yng Nghampws Canol y Ddinas
Dydd Iau 3ydd Medi – 3pm – 6pm yng Nghampws y Barri a Champws Canol y Ddinas

Dydd Mercher 9fed Medi – 3pm – 6pm yng Nghampws Canol y Ddinas
Dydd Iau 10fed Medi – 3pm – 6pm yng Nghampws y Barri
Dydd Mercher 23ain Medi – 3pm – 6pm yng Nghampws Canol y Ddinas
Dydd Iau 24ain Medi – 3pm – 6pm yng Nghampws y Barri


Dod i sesiwn ymrestru agored


Yn ystod y sesiwn ‘cofrestru hwyr’, byddwch yn cyfarfod â’n hathrawon neu ein cynghorwyr, a byddwn yn eich helpu i ystyried y cyrsiau sydd ar gael a chwilio am y cwrs gorau i chi.

Cofiwch ddod â’r canlynol gyda chi:

  • copi o ganlyniadau eich arholiadau
  • dull adnabod os nad ydych wedi astudio gyda CCAF o’r blaen (er enghraifft Cerdyn Yswiriant Gwladol / Pasbort / dogfen adnabod o fath arall sy’n cynnwys eich llun).

A pheidiwch â phoeni os na chawsoch y graddau disgwyliedig. Gallwn wirio eich canlyniadau ac ystyried y cyrsiau a’r cyfleoedd sydd ar gael.

Cofrestru ar Gwrs Rhan-amser


Os ydych wedi gwneud cais am gwrs rhan-amser yn CCAF, neu os ydych wedi cael cynnig lle ar gwrs o’r fath, byddwn wedi anfon e-bost atoch ynglŷn â’r camau nesaf. Gwiriwch eich e-bost. Methu dod o hyd i’r e-bost? Edrychwch yn eich ffolder sothach neu cysylltwch â ni.

Bydd yr e-bost yn dweud pa gam rydych wedi’i gyrraedd yn y broses, gan nodi’r camau nesaf – sef un o’r camau isod. Bydd yr e-bost yn nodi’r cam rydych wedi’i gyrraedd a pha gam y dylech ei gymryd nesaf.

Os ydych wedi cael Cynnig Diamod (heb orfod disgwyl am ganlyniadau arholiadau)

Rydym wedi anfon e-bost cofrestru atoch.


Nawr, gallwch gofrestru ar-lein (drwy ddefnyddio’r ddolen yn yr e-bost) neu drwy fynd i Gampws Canol y Ddinas neu Gampws y Barri ddydd Llun i ddydd Iau, 10.00am – 4.00pm.


Rhaid ichi wneud hyn cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau eich lle yn y coleg, ac erbyn 12 hanner dydd, ddydd Mawrth 25ain Awst, pan fydd eich cynnig yn dod i ben ac y gellir cynnig y lle  i rywun arall. Wrth ymrestru, neilltuir y lleoedd ar sail y cyntaf i’r felin.

Methu dod o hyd i’r e-bost? Gwiriwch y cyfeiriad e-bost y gwnaethoch ei roi inni wrth ymgeisio. A chofiwch edrych yn eich ffolder sothach. Ydych chi’n dal i fethu dod o hyd iddo? Cysylltwch â ni ar studentservices@cavc.ac.uk i roi gwybod.

Os ydych wedi cael Cynnig Amodol (aros am ganlyniadau arholiadau / pasio cwrs blaenorol)

Byddwn yn anfon e-bost atoch gydag apwyntiad i ddod i’r coleg i ymrestru erbyn canol mis Awst. Bydd eich apwyntiad brynhawn Mawrth  25ain Awst, naill ai yng Nghampws y Barri neu yng Nghampws Canol y Ddinas, gyda’ch cynnig yn dod i ben ar ddiwedd y diwrnod hwnnw.


Methu dod o hyd i’r e-bost? Gwiriwch y cyfeiriad e-bost y gwnaethoch ei roi inni wrth ymgeisio. A chofiwch edrych yn eich ffolder sothach. Ydych chi’n dal i fethu dod o hyd iddo? Cysylltwch â ni ar 

studentservices@cavc.ac.uki roi gwybod.


Methu dod i’ch apwyntiad? Os na allwch ddod i’ch apwyntiad, bydd eich cynnig yn dod i ben ar ddiwedd y diwrnod hwnnw. Yna, bydd angen i chi ddod i’r sesiwn ymrestru agored gynharaf bosib i weld a oes lle ar ôl y gallwch ei gymryd.

Cynhelir sesiynau ymrestru agored fel a ganlyn:
Dydd Mercher 26ain Awst – 9am – 6pm yng Nghampws Canol y Ddinas
Dydd Iau 27ain Awst – 3pm – 6pm yng Nghampws y Barri a Champws Canol y Ddinas
Dydd Mawrth 1af Medi – 3pm – 6pm yng Nghampws y Barri a Champws Canol y Ddinas
Dydd Mercher 2il Medi – 3pm – 6pm yng Nghampws Canol y Ddinas
Dydd Iau 3ydd Medi – 3pm – 6pm yng Nghampws y Barri a Champws Canol y Ddinas

Dydd Mercher 9fed Medi – 3pm – 6pm yng Nghampws Canol y Ddinas
Dydd Iau 10fed Medi – 3pm – 6pm yng Nghampws y Barri
Dydd Mercher 23ain Medi – 3pm – 6pm yng Nghampws Canol y Ddinas
Dydd Iau 24ain Medi – 3pm – 6pm yng Nghampws y Barri

Cais hwyr – rydych wedi ymgeisio ar ôl 1 Awst ac rydych wedi cael gwahoddiad i gofrestru’n hwyr

Byddwch yn cael gwahoddiad i’r sesiwn ‘cofrestru hwyr’ nesaf a fydd ar gael.

Yn y sesiwn hon, byddwch yn cyfarfod â’n hathrawon. Bydd modd i ymgeiswyr cymwys gofrestru ar y lleoedd sydd ar ôl ar sail ‘y cyntaf i’r felin’.

Cofiwch ddod â’r canlynol gyda chi:

  • tystiolaeth o unrhyw gymwysterau y gallai fod angen i chi ei dangos (dim ond os bydd gan y cwrs ofynion mynediad penodol)
  • dull adnabod os nad ydych wedi astudio gyda CCAF o’r blaen (er enghraifft Cerdyn Yswiriant Gwladol / Pasbort / dogfen adnabod o fath arall sy’n cynnwys eich llun).

Cofrestru ar Gwrs Addysg Uwch

Os ydych wedi gwneud cais am gwrs Addysg Uwch yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, neu os ydych wedi cael cynnig lle ar gwrs o’r fath, byddwn yn anfon e-bost atoch ynglŷn â’r camau nesaf. Gwiriwch eich e-bost. Methu dod o hyn i’r e-bost? Edrychwch yn eich ffolder sothach neu cysylltwch â ni.

Bydd yr e-bost yn dweud pa gam rydych wedi’i gyrraedd yn y broses, gan nodi’r camau nesaf. 

Pob ymgeisydd

Byddwn yn afon e-bost atoch gydag amser apwyntiad i ddod i’r coleg i ymrestru. Efallai hefyd y byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn ar y rhif a roesoch i ni.

Methu dod o hyd i’r e-bost? Gwiriwch y cyfeiriad e-bost y gwnaethoch ei roi inni wrth ymgeisio. A chofiwch edrych yn eich ffolder sothach. Dal heb ddod o hyd iddo? Cysylltwch â ni ar studentservices@cavc.ac.uk i roi gwybod i ni.

Angen help i gofrestru? A oes gennych gwestiwn? Cysylltwch â ni


Mae ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yma i’ch helpu.


Sgwrs Fyw ar ein gwefan: Cliciwch ar yr eicon sgwrs fyw ar eich sgrin

Ffôn:02920 250 250

E-bost:studentservices@cavc.ac.uk

Ymweld â ni: Llun – Iau 10.00am – 3.00pm yng


Nghampws Canol y Ddinas CCAF

Mae ein llinellau ffôn yn brysur iawn yr adeg hon o’r flwyddyn, felly efallai y bydd y gwasanaeth hwn yn cymryd mwy o amser.

Beth allwch chi ei ddisgwyl gan CAVC...

Safleoedd & Chyfleusterau

Mae’r Coleg wedi buddsoddi mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf i’n dysgwyr, cyflogwyr a’r gymuned.