Ymarferydd PRINCE2 (PLA)

L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni am ddyddiadau
Ar-lein
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs 1 diwrnod Ymarferydd PRINCE2® yn ychwanegu at egwyddorion dulliau rheoli prosiect PRINCE2® Sylfaenol. Bydd y cwrs hwn yn galluogi ymgeiswyr i gymhwyso a theilwra egwyddorion, themâu a phrosesau PRINCE® i wella cynhyrchiant a swyddogaethau gweithredu’r prosiect. Byddant hefyd yn dysgu am amryw o bynciau hanfodol, fel dulliau cyflwyno, saith thema, rolau tîm rheoli prosiect, disgrifiad cynnyrch prosiect, teilwra’r broses DP, ymgorffori PRINCE2®, a llawer mwy.

Erbyn diwedd y cwrs Ymarferydd PRINCE2® hwn, bydd cyfranogwyr yn gallu dirprwyo goddefiannau ac adrodd cynnydd gwirioneddol a rhagweld cynnydd yn effeithiol. Byddant hefyd yn gallu paratoi’r dulliau rheoli risg, rheoli newid, rheoli ansawdd a rheoli cyfathrebiad yn brydlon.

Mae ennill yr ardystiad PRINCE2® hwn yn galluogi ymgeiswyr i ddangos a gwella eu hyfedredd rheoli prosiectau - gan gyfrannu at well graffter busnes a rhagolygon gyrfa.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Hyfforddiant Ymarferydd PRINCE2®

Mae elfen Ymarferydd PRINCE2® y cwrs cyfunol yn ffurfio rhan olaf yr hyfforddiant, pan fydd ymgeiswyr yn dysgu sut i gymhwyso eu gwybodaeth newydd. Bydd ymgeiswyr yn dysgu sut i gymhwyso’r fethodoleg i set o senarios a sut i arwain prosiect yn effeithiol. 

Mae llyfr gwaith manwl i ymgeiswyr ei gwblhau wedi’i gynnwys o fewn ein Cwrs Hyfforddiant Ymarferydd PRINCE2®, a fydd yn gwella eu dealltwriaeth o gaffael, a’u gallu i gymhwyso PRINCE2® i’w sefydliad. Bydd y deunydd hyfforddiant PRINCE2® ychwanegol yn gwella cyfle ymgeisydd o lwyddo yn yr arholiad a chael gyrfa PRINCE2® lwyddiannus. Bydd y llyfr gwaith hunan astudio yn cymryd 10 awr i’w gwblhau, a bydd yn eich tywys drwy brosiect PRINCE2® llawn.

Dulliau Addysgu ac Asesu

Cynhelir y cwrs 1 diwrnod hwn ar-lein, drwy Ddosbarth rhithiol, 9am- 5pm. Bydd angen cyfrifiadur/gliniadur gyda microffon a chamera arnoch. 

Bydd dysgwyr yn trefnu arholiadau eu hunain, ar adeg sy’n gyfleus iddyn nhw.

RHAID trefnu arholiadau o fewn 30 diwrnod o'r cwrs

Llyfr Gwaith Paratoi ar gyfer Arholiad PRINCE2®

Mae’r llyfr gwaith paratoi ar gyfer yr arholiad yn sicrhau a’n gwirio eich bod â’r wybodaeth a’r hyder i lwyddo yn eich arholiad.

Mae’r llyfr gwaith paratoi ar gyfer yr arholiad hwn yn cynnwys cwestiynau ffug, prosiectau sy’n seiliedig ar senarios perthnasol, ac mae’n adnabyddus am wella marciau llwyddo ymhellach. Noder, mae’r llyfr gwaith paratoi ar gyfer yr arholiad, a chyfarwyddiadau ynghylch sut i drefnu eich arholiad, ar gael yn eich Cyfarwyddiadau Ymuno, yr ydych yn eu derbyn ar ôl ymrestru. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cwblhau’r llyfr gwaith cyn sefyll yr arholiad, er mwyn gwella eich gobaith o lwyddo.

Mae’r arholiad Ymarferydd PRINCE2® yn canolbwyntio ar y gallu i gymhwyso PRINCE2® i senario enghreifftiol.

Math o Gwestiynau: Prawf gwrthrychol, math o brawf amlddewis.

Nifer y Marciau: 68 marc, gyda phob cwestiwn ar-lein yn werth 1 marc.

Marc llwyddo: 38 marc, 55%.

Hyd yr arholiad: 2 awr 30 Munud.

A yw deunyddiau wedi’u caniatáu: Mae'r arholiad ymarferydd PRINCE2® yn arholiad ‘Llyfr Agored’.

Gofynion mynediad

Rhaid bod wedi cyflawni Sylfaen PRINCE2 yn ystod y 3 mis diwethaf

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni am ddyddiadau

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

7 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

CS1PR0P
L3

Cymhwyster

Prince2 Practitioner (PLA)