Meistr Scrum (CDP)

L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Ar-lein
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

 Mae Scrum yn fframwaith hyblyg sy'n gwella'r ffordd y darperir meddalwedd, drwy annog "sbrintiau" tîm byr, ymdrech uchel, cydweithredol ac eithriadol gynhyrchiol, yn hytrach na gweithio ar brosiect hydredol, sy’n lladd cymhelliant ac yn defnyddio llawer iawn o adnoddau. Mae Tîm Scrum yn cynnwys Meistr Scrum, Perchennog Cynnyrch, a Thîm Datblygu Scrum.

Rhesymau dros ddewis

  • Dod yn Feistr Scrum, Perchennog Cynnyrch, neu Ddatblygwr effeithlon
  • Gwella eich ymwybyddiaeth o'r fframwaith Scrum er mwyn hybu cynhyrchiant
  • Dangos eich gallu i ddeall gwerthoedd, arferion a rhaglenni Scrum i arwain Timau Scrum
  • Datblygu eich hyfedredd proffesiynol mewn fframwaith rheoli sy'n cynyddu’n hynod gyflym ac yn cael ei ddefnyddio
  • Dysgu sut i gyflwyno fframwaith Scrum yn eich sefydliad er mwyn helpu gyda chapasiti gweithredol y prosiect

Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa. 

Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r Dystysgrif Meistr Scrum hon yn cynnwys deuddydd o hyfforddiant yn yr ystafell ddosbarth, gan gyfuno addysgu dan arweiniad hyfforddwr ac ymarferion ymarferol. Ar ddiwrnod olaf y cwrs, byddwch yn sefyll arholiad Meistr Scrum 1 awr i gadarnhau eich gwybodaeth.

Mae'r cwrs hwn yn rhoi sylw i’r pynciau canlynol:

  • Modiwl 1: Cyflwyniad i Lean, Agile, a Scrum
  • Modiwl 2: Trosolwg o Scrum
  • Modiwl 3: Arteffactau Scrum
  • Modiwl 4: Sbrintiau a Fframwaith Scrum
  • Modiwl 5: Swyddogaethau a Chyfrifoldebau
  • Modiwl 6: Meistr Scrum
  • Modiwl 7: Hwyluso, Hyfforddi ac Arweinyddiaeth Gwas
  • Modiwl 8: Gwneud Penderfyniadau Cydweithredol
  • Modiwl 9: Graddio ac Addasu

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

14 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

CSSCRUM2M
L3

Cymhwyster

APMG International Scrum Master