Ardystiad Sylfaen ac Ymarferydd PRINCE2® (CDP)

L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Ar-lein
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

PRINCE2® (Prosiectau mewn Amgylcheddau Dan Reolaeth) yw un o'r methodolegau rheoli prosiectau mwyaf poblogaidd yn y byd. Mae PRINCE2® yn fethodoleg gredadwy ac amlwg sy'n canolbwyntio ar hybu cynhyrchiant a chael y gorau o adnoddau. Mae ein Cwrs ® PRINCE2 yn canolbwyntio'n bennaf ar bedair prif elfen PRINCE2®: egwyddorion, themâu, prosesau ac amgylchedd y prosiect.
Gellir mynychu PRINCE2® fel 1 cwrs – cyfanswm o 5 diwrnod.

Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa. 
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Lefel Sylfaen – 3 diwrnod 

Mae'r ardystiad Lefel Sylfaen yn cyflwyno dull PRINCE2® o weithredu a'i nod yw cadarnhau eich bod yn gwybod ac yn deall dull PRINCE2® yn ddigon da i allu gweithio'n effeithiol gyda, neu fel aelod o, dîm rheoli prosiect sy'n gweithio mewn amgylchedd sy'n cefnogi PRINCE2®. Mae'r ardystiad Sylfaen hefyd yn rhagofyniad ar gyfer ardystiad yr Ymarferydd.

Lefel Ymarferydd – 2 ddiwrnod

Mae ardystiad Ymarferydd PRINCE2® yn addas ar gyfer unrhyw un sy'n rheoli prosiectau. Gallai hyn fod fel rhan o swyddogaeth rheoli prosiect ffurfiol neu rôl sy'n cynnwys rheoli prosiectau fel rhan o waith o ddydd i ddydd. Nod yr ardystiad Ymarferydd yw cadarnhau bod gennych chi ddigon o wybodaeth a dealltwriaeth i gymhwyso a theilwra'r dull mewn ystod o amgylcheddau a senarios prosiect gwahanol.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs   

Mae PRINCE2® ar gyfer rheolwyr prosiect, darpar reolwyr prosiect ac unrhyw un sy'n rheoli prosiectau. Mae hefyd yn berthnasol i staff allweddol eraill sy'n ymwneud â dylunio, datblygu a chyflawni prosiectau, gan gynnwys: Aelodau Bwrdd Prosiect, Rheolwyr Tîm, Cymorth Prosiect, Sicrwydd Prosiect a rheolwyr/staff llinell weithredol.
Bydd ardystiad Ymarferydd ® PRINCE2 yn dod i ben ar ôl 3 blynedd. Er mwyn cynnal eich cymhwyster a sicrhau nad oes bylchau yn eich statws fel Ymarferydd, gallwch naill ai ailsefyll Arholiad Ymarferydd PRINCE2® cyn y dyddiad dod i ben neu gynnal eich ardystiad drwy bwyntiau DPP a bathodyn digidol

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

28 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

CSPRFPC
L3

Cymhwyster

PeopleCert PRINCE2 Practitioner

Angen gwybod

Pam CAVC?

Un o'r colegau mwyaf yn y wlad gyda mwy na 30,000 o bobl yn dysgu gyda ni bob blwyddyn.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Y Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Ar-lein
Ar-lein