Prince2 Agile® Sylfaen ac Ymarferydd (CDP)

L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Ar-lein
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs yma’n llawn erbyn hyn, ond rydym yn derbyn ceisiadau yn awr ar gyfer cyrsiau fydd yn cychwyn o fis Medi 2023.  Ymgeisiwch nawr ac fe gysylltwn â chi ym mis Gorffennaf i drafod dyddiadau.

PRINCE2 Agile® yw datrysiad rheoli prosiectau hyblyg mwyaf cyflawn y byd, gan gyfuno hyblygrwydd ac ymatebolrwydd â llywodraethu PRINCE2®. Mae Prince2 Agile yn darparu strwythur, llywodraethu a mesurau rheoli wrth weithio gyda chysyniadau, dulliau a thechnegau hyblyg. Y nod yw helpu gweithwyr proffesiynol i deilwra mesurau rheoli wrth weithio mewn amgylchedd hyblyg.

Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa. 
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae PRINCE2 Agile ar gael fel dau ardystiad: 

PRINCE2 Agile Sylfaen

  • Mae PRINCE2 Agile Sylfaen wedi'i gynllunio ar gyfer unigolion sy'n newydd i PRINCE2 ac sy'n gweithio mewn amgylchedd prosiect hyblyg neu'n gysylltiedig ag amgylchedd o'r fath
  • Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno trosolwg o PRINCE2, cyflwyniad i Agile a sut i ddefnyddio'r ddau gyda'i gilydd
  • Nid oes rhagofynion ar gyfer y cwrs.

PRINCE2 Agile Ymarferydd

  • Mae Prince2 Agile Ymarferydd wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sydd eisoes wedi'u hardystio naill ai ar lefelau Sylfaen PRINCE2 neu PRINCE2 Agile
  • Mae cwrs PRINCE2 Agile Ymarferydd yn edrych ar y defnydd ymarferol o ddull PRINCE2 Agile o weithredu gyda senarios yn y byd real
  • Gall ymgeiswyr sefyll arholiad PRINCE2 Agile Ymarferydd os oes ganddynt unrhyw un o'r ardystiadau rheoli prosiect canlynol: PRINCE2 Sylfaen, PRINCE2 Agile Sylfaen, Gweithiwr
  • Proffesiynol Rheoli Prosiectau (PMP)*, Cyswllt Ardystiedig mewn Rheoli Prosiectau (CAPM)* neu IMPA Lefelau A,B, C a D (Cyfarwyddwr Prosiect Ardystiedig).

Asesir y cymwysterau hyn drwy arholiadau:

  • Arholiad 1 Awr – Lefel Sylfaen
  • Arholiad 2.5 Awr – Lefel Ymarferwr

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

35 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

CSP2AFPC
L3

Cymhwyster

PeopleCert PRINCE2 Agile Practitioner

Angen gwybod

Pam CAVC?

Un o'r colegau mwyaf yn y wlad gyda mwy na 30,000 o bobl yn dysgu gyda ni bob blwyddyn.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Y Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Ar-lein
Ar-lein