Mae hwn yn gymhwyster seiliedig ar wybodaeth ar gyfer dysgwyr a gyflogir yn y sector Gofal, Chwarae, Dysg a Datblygiad Plant sy'n bwriadu symud ymlaen i rôl reoli.
Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi cyfle ‘carreg gamu’ i ddysgwyr sydd eisiau symud ymlaen i Lefel 5. Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio i ddysgwyr ddatblygu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth allweddol sy’n sail i arweinyddiaeth a rheolaeth yn y sector Gofal, Chwarae, Dysg a Datblygiad Plant.
Mae'r cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysg a Datblygiad Plant yn cynnwys y tair uned ganlynol:
• Arwain ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn
• Fframweithiau damcaniaethol ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth
• Deall sut i arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol
Bydd gofyn i'r dysgwyr fynychu gweithdai ar-lein misol sy'n darparu cymorth ymarferol a pherthnasol i weithgareddau seiliedig ar waith.
Yn ogystal, sesiynau un i un gydag aelod o dîm cyflawni ACT, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb a dysgu o bell. Bydd aseswr ACT yn cyfarfod â’r dysgwr, naill ai yn y gweithle neu drwy ddulliau digidol (er enghraifft, Microsoft Teams) unwaith y mis am tua dwy awr i gefnogi cynnydd.
Bydd gofyn i ddysgwyr wneud astudiaeth ychwanegol a chwblhau gwaith a neilltuwyd o'r sesiynau hyn.
Ar gyfer yr asesiad mewnol rhaid i ddysgwyr gwblhau cyfres o dasgau yn llwyddiannus, sy'n cynnwys ymatebion llafar ac ysgrifenedig.
Bydd angen i ddysgwyr feddu ar gymhwyster Gofal Plant perthnasol Lefel 3 a bod yn gweithio mewn lleoliad gofal plant.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.