Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PLA)

L4 Lefel 4
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Ar-lein
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

Mae hwn yn gymhwyster seiliedig ar wybodaeth ar gyfer dysgwyr a gyflogir yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol sy'n bwriadu symud ymlaen i rôl reoli. Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi cyfle ‘carreg gamu’ i ddysgwyr sydd eisiau symud ymlaen i Lefel 5.

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio i ddysgwyr ddatblygu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth allweddol sy’n sail i arweinyddiaeth a rheolaeth yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnwys y tair uned ganlynol:

Deddfwriaeth, damcaniaethau a modelau ymarfer sy'n canolbwyntio ar y person / plentyn

Fframweithiau damcaniaethol ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

• Arweinyddiaeth a rheolaeth perfformiad tîm effeithiol mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

Dulliau addysgu ac asesu

Disgwylir i'r cymhwyster gymryd 14 mis i'w gwblhau a bydd y cymhwyster yn cael ei gyflwyno drwy gymysgedd o sesiynau dysgu o bell ar-lein a sesiynau un i un gydag aseswr.

Cynhelir y sesiynau ar-lein unwaith neu ddwywaith y mis a gallent fod rhwng un a thair awr o hyd. Cynhelir asesiadau gyda'ch aseswr ACT neu gydag aseswr allanol City and Guilds. Bydd aseiniadau ysgrifenedig ac asesiadau llafar yn gofyn bod gan ddysgwyr sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig da.

Gofynion mynediad

Bydd angen i ddysgwyr feddu ar gymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol perthnasol lefel 3 a bod yn gweithio mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

8 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

CSLM0H
L4

Cymhwyster

City & Guilds Level 4 Preparing for Leadership and Management in Health and Soci

Mwy...

Fideos