Tystysgrif Gyffredinol Genedlaethol NEBOSH (CDP)

L3 Lefel 3
Rhan Amser
31 Gorffennaf 2024 — 31 Gorffennaf 2024
Lleoliad Cymunedol
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynglŷn â'r cwrs

Mae Tystysgrif Gyffredinol Genedlaethol mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol NEBOSH yn gymhwyster iechyd a diogelwch a gydnabyddir yn fyd-eang ac mae gan fwy na 175,000 o bobl yn y DU ac yn fyd-eang y cymhwyster hwn.

Mae’r cwrs yn seiliedig ar gyfraith y DU ac yn hanfodol i unrhyw sy’n gweithio neu eisiau gweithio ym maes diogelwch ac iechyd. Mae’n gam cyntaf hanfodol ar gyfer y rhai sydd eisiau creu gyrfa lwyddiannus mewn Iechyd a Diogelwch.


Mae'r cwrs hwn yn rhedeg dros 10 diwrnod dros 10 wythnos. Mae gennym ddewisiadau astudio ar-lein ac yn yr ystafell ddosbarth. 

Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa. 
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae dwy uned:

  • NG1   Rheoli Iechyd a Diogelwch        
  • NG2  Asesiad Risg

Asesu

  • Arholir NG1 drwy Arholiad Llyfr Agored ar-lein – arholiad ysgrifenedig.
  • Asesiad risg ymarferol yw NG2.
  • Mae’r ddau asesiad yn cael eu marcio gan NEBOSH. 

Ar ôl llwyddo yn nwy uned Tystysgrif NEBOSH, mae’r ymgeiswyr yn gymwys i ymuno ag IOSH a/neu’r Sefydliad ar gyfer Rheoli Diogelwch a Risg ar y graddau canlynol: 

  • IOSH Technegol: Aelod technegol o IOSH; ac
  • AIIRSM: Aelod Cyswllt o’r Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Rheoli Diogelwch a Risg.  

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

31 Gorffennaf 2024

Dyddiad gorffen

31 Gorffennaf 2024

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

7 awr yr wythnos

Lleoliad

Lleoliad Cymunedol
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

CSNEBNGCP1
L3

Cymhwyster

NEBOSH National General Certificate